Jest y Job i Helen Rees-Jones

Ydych chi’n gweithio mewn Cylch Meithrin neu Gylch Ti a Fi ym Meirionnydd? Efallai y gwelwch chi wyneb newydd yn dod atoch i gynnig cefnogaeth dros y misoedd nesa. Dyma gyfle i ddod i nabod Helen Rees-Jones o’r Bala, sydd wedi’i phenodi’n Swyddog Cefnogi Meirionnydd gyda Mudiad Meithrin.

Pam wnaethoch chi ymgeisio am y swydd yma?

Roeddwn i angen her newydd a gwelais y swydd yn cael ei hysbysebu a meddwl ‘pam lai?’

Disgrifiwch ddiwrnod arferol yn eich swydd

Mynd o amgylch Cylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi a Meithrinfeydd Dydd Meirionnydd a chynnig cyngor a chefnogaeth iddyn nhw. Mae llawer o deithio yn y swydd ac felly mae’n lwcus fy mod yn hoff o yrru.

Beth yw eich hoff elfen o’r swydd?

Cyfarfod pobol newydd

Beth yw her fwyaf y swydd?

Dod i ddeall pob dim am y swydd gan fy mod i angen rhoi’r cyngor a’r gefnogaeth orau i’r cylchoedd.

Beth yw eich prif nod yn y gwaith?

Ceisio fy ngorau glas i ddysgu pob dim, gan ymchwilio a chadw safonau addysg a gofal plant cylchoedd Meirionnydd yn uchel.

Pan nad ydych yn gweithio, beth ydych chi’n ei wneud?

Dwi’n hoff iawn o gerdded ac yn byw ar fferm felly yn hoff iawn o anifeiliaid. Dwi’n hoffi coginio a chael amser efo’r teulu.

Beth yw eich hoff ddywediad?

Nid aur yw popeth melyn.

Pwy ydych chi’n ei edmygu?

Dwi’n edmygu llawer iawn o bobl – Mam yn un o’r rhain gan ei bod yn berson positif a chryf.

Byw i weithio neu weithio i fyw?

Gweithio i fyw!

 

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar golwg360.

YTC 4 Llan CLT

Hwylusydd Prosiect

Dyddiad cau: Rhagfyr 13
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Arolygydd Eiddo – Siaradwr Cymraeg

Dyddiad cau: Tachwedd 24
Prifysgol Bangor

Is-ddatblygwr Meddalwedd

Lleoliad: Bangor
Cyflog: £29,605 – £39,347
Dyddiad cau: Rhagfyr 1
Menter Iaith Conwy

Swyddog Ardal Wledig (Dyffryn Conwy)

Dyddiad cau: Tachwedd 25

Cylchlythyr