Jest y Job i Sara Lois Roberts ym Menter Môn

Aelod diweddaraf tîm Menter Môn yw Sara Lois Roberts o Lanbedrog, ac ers tair wythnos mae wedi bod yn gweithio fel Cydlynydd Hwb Menter. Ond pwy yw Sara Roberts? Aeth Golwg i’w holi…

Aelod diweddaraf tîm Menter Môn yw Sara Lois Roberts o Lanbedrog, ac ers tair wythnos mae wedi bod yn gweithio fel Cydlynydd Hwb Menter. Ond pwy yw Sara Roberts? Aeth Golwg i’w holi…

Pam penderfynu mynd am y swydd yma?

Roeddwn yn awyddus i wthio fy hun, i geisio am rywbeth fyddai’n sialens. Roedd yn swnio yn ofnadwy o ddiddorol a gan ei bod yn rhaglen newydd a byddai cyfle i mi fod yn rhan o’i siapio o’r cychwyn cyntaf.

Sut ydych chi’n treulio eich amser y tu allan i’r gwaith?

Rwyf yn rhedeg fy musnes fy hun, Sara Lois Jewellery, yn creu gemwaith. Modrwyau dyweddïo a phriodasau yn bennaf dyddiau yma. Mae’r busnes yn fy nghadw i’n ofnadwy o brysur, ond pan mae gen i amser sbâr dwi’n mwynhau treulio amser gyda fy nheulu a ffrindiau neu’n gwylio rhagleni teledu gwael. Hollyoaks ydi fy ‘guilty pleasure’!

Llyfr nodiadau neu sgrîn?

Does dim i guro llyfr nodiadau os oes angan sgwennu rhywbeth i lawr yn sydyn, ond mi wyf yn defnyddio’r ap Asana i nodi lawr a cadw trefn ar y tasgau sydd yn dod allan o’r nodiadau sydyn.

Ffonio neu ebostio?

Ebost yn bendant i mi – dwi’n hoff ei fod yn rhoi mwy o gyfle i chi feddwl be ydych eisiau ei ddweud. Ac mae bob tro yna fel record os oes gennych gof gwael fel sgen i!

Beth yw eich swydd orau hyd yn hyn?

Dwnim os byswn i yn ei alw yn fy swydd orau, ond mae gen i atgofion da o fy swydd gyntaf un mewn siop frechdanau yn Abersoch. Yn ystod yr haf roedd rhaid cychwyn am 6:30 yn y bora er mwyn pobi cannoedd o baguettes ac yna eu torri a’u llenwi efo letys! Roedd rhywbeth eithaf braf am wneud hynny yn nhawelwch y bora.

Beth yw’r Hwb Menter? 

Mae’n darparu’r wybodaeth, yr arweiniad, yr ysbrydoliaeth a’r gofod i entrepreneuriaid drawsnewid eu syniad yn fusnes llwyddiannus. Gall dechrau busnes fod yn brofiad unig gyda llawer o heriau ar hyd y ffordd. Y gobaith yw creu cymuned o unigolion sydd yn yr un sefyllfa a fydd yn rhannu syniadau â’i gilydd a chynnig anogaeth. Byddwn hefyd yn ceisio darparu ystod o weithgareddau fel siaradwyr gwadd, hackathons, digwyddiadau pitsio a gweithdai rhyngweithiol. A’r peth gorau yw, mae hyn i gyd AM DDIM am o leiaf 6 mis!

Oes gyda chi unrhyw gyngor i bobl sy’n awyddus i fentro?

Cerwch amdani! Does dim rhaid i chi fynd amdani mewn modd eithafol os nad ydych eisiau.  Byswn yn cynghori bod modd profi’r dyfroedd gyntaf, gwneud camau bychain, cadarn i brofi os oes galw am eich busnes. Y peth pwysig ydi eich bod yn cymryd y camau gyntaf yma i gael eich syniad allan yna, i gael adborth a datblygu. Hefyd, peidiwch â bod ofn gofyn am gymorth, mae digonedd ar gael. Beth am gysylltu â’r Hwb Menter fel cam cyntaf?

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar golwg360.

YTC 4 Llan CLT

Hwylusydd Prosiect

Dyddiad cau: Rhagfyr 13
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Arolygydd Eiddo – Siaradwr Cymraeg

Dyddiad cau: Tachwedd 24
Prifysgol Bangor

Is-ddatblygwr Meddalwedd

Lleoliad: Bangor
Cyflog: £29,605 – £39,347
Dyddiad cau: Rhagfyr 1
Menter Iaith Conwy

Swyddog Ardal Wledig (Dyffryn Conwy)

Dyddiad cau: Tachwedd 25

Cylchlythyr