Jest y Job i Zahra Errami

Zahra Errami o Sir Fôn yw un o newyddiadurwyr dan hyfforddiant newydd ITV Cymru, ac mae wrthi’n creu cynnwys digidol i bobol ifanc.

Zahra Errami o Sir Fôn yw un o newyddiadurwyr dan hyfforddiant newydd ITV Cymru, ac mae wrthi’n creu cynnwys digidol i bobol ifanc. Felly, sut un yw Zahra?

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn y swydd yma?

Prentisiaeth Greadigol a Digidol yn ITV Cymru

Pwy sy’n dylanwadu fwyaf arnoch chi?

Pobol, yn gyffredinol, fydd yn dylanwadu arna i. Pobol sydd tu ôl i bob stori, barn neu fudiad mewn cymdeithas, a dyna sydd yn fy ysbrydoli i eisiau creu cynnwys sydd yn dod gan y bobol, i’r bobol.

Beth yw’r her fwyaf yn y swydd newydd?

Yr her fwyaf i mi fydd trio torri’r ‘Brexit boredom’ sydd ar bobol, yn cynnwys fi…ac addasu’r platfform i adrodd am wleidyddiaeth sydd yn fwy dealladwy a pherthnasol i’r to iau.

Rhowch syniad o ddiwrnod arferol yn y gwaith.

Fyswn i’n licio deud na fydda i’n dechrau bob bore wrth edrych trwy’r papur newydd dros frecwast efo sbectol ar fy nhrwyn, ond mewn gwirionedd – sgrolio sgrin fy smart ffôn efo litr o goffi du fydda i, yn chwilio trwy’r aps am newyddion yn torri. Pan rwy’n ffeindio stori fydda’n siwtio Hansh, bydda i’n dechrau cysylltu â phobol a gwneud trefniadau’r eiliad dwi’n cyrraedd gwaith. Ac yna, ar ôl meddwl am ba blatfform, fformat a ‘downio’ fy mhumed coffi, fydda i’n grabio’n offer ffilmio a dilyn y stori.

Pwy yw eich hoff newyddiadurwr?

Dwi wedi tyfu i fyny yn gwylio newyddiadurwyr fel Louis Theroux a Stacey Dooley mewn rhaglenni dogfen ymchwiliol a dwi’n edmygu eu math nhw o newyddiaduraeth anffurfiol a phersonol.

Tasai modd i chi gyfweld ag unrhyw un, pwy fyddai’r person hwnnw a bet fyddech chi’n ei holi?

Dwi wrth fy modd gyda ‘crime docs’ ac yn darllen llyfr gan Christopher Berry-Dee ar y funud am ei sgyrsiau gyda ‘Pscyhopaths’, felly fysa fo’n gorfod bod yn rhywun fel Eileen Wurnos, a swni’n gyntaf yn gofyn iddi a yw hi’n ok?

Pa wahaniaeth hoffech chi ei wneud yn eich swydd newydd?

Gwneud gwahaniaeth i’r ffordd mae pobol ifanc yn gwylio ac yn ymateb i newyddion Cymru, ac arbrofi mwy gyda newyddion ar Instagram a chreu cynnwys cyfoes i’r platfform.

Cafodd y swydd yma ei hysbysebu ar golwg360.

YTC 4 Llan CLT

Hwylusydd Prosiect

Dyddiad cau: Rhagfyr 13
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Arolygydd Eiddo – Siaradwr Cymraeg

Dyddiad cau: Tachwedd 24
Prifysgol Bangor

Is-ddatblygwr Meddalwedd

Lleoliad: Bangor
Cyflog: £29,605 – £39,347
Dyddiad cau: Rhagfyr 1
Menter Iaith Conwy

Swyddog Ardal Wledig (Dyffryn Conwy)

Dyddiad cau: Tachwedd 25

Cylchlythyr