Penodi Pwy?
Ar ôl gwyliau’r Pasg bydd Ysgol Bro Dinefwr yn croesawu pennaeth newydd, ac mae Ionwen Spowage yn edrych ymlaen at siapio dyfodol addysg yn ei chymuned leol.
Yn wreiddiol o Langadog, symudodd Ionwen Spowage i bentref bach Cynghordy ger Llanymddyfri pan oedd yn chwech oed. Mae bellach yn byw gyda’i gŵr a’i meibion ychydig filltiroedd o gartref ei theulu, a neidiodd ar y cyfle i ymgeisio am swydd Pennaeth yr ysgol yn Nyffryn Tywi.
Wrth geisio troi Ysgol Bro Dinefwr i fod yn “ysgol wych”, nid yw am ganolbwyntio ar gyrraedd y safonau academaidd uchaf yn unig – mae datblygu doniau unigol unigryw’r disgyblion i’w llawn botensial hefyd yn allweddol. Mae am weld y disgyblion yn datblygu’n “ddinasyddion hyderus, creadigol ac uchelgeisiol”, ac er y bydd yn treulio tipyn o amser yn cynllunio ac yn datblygu cyfeiriad strategol yr ysgol, ei hoff ran o’r dydd yw sgwrsio â’r disgyblion a’r staff – yn y dosbarth ac ar yr iard.
Gyrfa amrywiol
Nid yw trywydd gyrfa Ionwen Spowage tuag at addysgu wedi bod yn un arferol! Ar ôl graddio, bu’n gweithio gyda chwmni Laura Ashley yng Ngharno. Ar ôl cyfnodau yn gweithio i gwmnïau ffasiwn yn Mhen-y-bont ar Ogwr a Llundain, penderfynodd wneud tro pedol a newid trywydd. Ar ôl astudio cwrs TAR a dechrau dysgu yng ngogledd Llundain, daeth adref i Gymru i ddysgu Technoleg Dylunio yn Ysgol Gyfun Caerllion. Datblygodd yn Bennaeth cyn cymryd at y swydd o redeg a sefydlu Ysgol Calon Cymru, sef ysgol dau gampws yn Llanfair-ym-Muallt a Llandrindod.
Dylanwad
Mae’n cyfaddef mai’r dylanwad mwyaf ar ei bywyd oedd genedigaeth ei mab ieuengaf sydd â syndrom Down. “Mae bod yn fam i Gwilym wedi fy ngwneud yn angerddol am gynhwysiant a darparu cyfleoedd go iawn i bawb gael eu gwerthfawrogi ac i chwarae rhan yn eu cymuned” medd Ionwen Spowage. Pob hwyl iddi yn ei swydd newydd.
Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar golwg360.