Elain Fflur Roberts, neu ‘merch Glyn Rhyd yr Efail’ fel mae’n cael ei hadnabod yn lleol, yw’r nawfed cenhedlaeth i fyw ar y fferm deuluol yn Parc, ger y Bala. Ar ôl pymtheg mlynedd fel aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Maesywaen, mae bellach yn Drefnydd y mudiad yn Sir Feirionnydd.
Pam wnaethoch chi benderfynu ymgeisio am y swydd yma?
Mae CFfI Meirionnydd yn agos iawn at fy nghalon a dwi wedi bod yn aelod brwd iawn ers pymtheg mlynedd. Mae’r swydd yn gyfle i mi dalu nôl am yr holl gyfleoedd gefais dros y blynyddoedd. Edrychaf ymlaen at weld aelodau eraill yn cael yr un profiadau â finnau.
Pa mor bwysig yw’r mudiad i chi ac i bobol ifanc y sir?
Mae’r mudiad yn un arbennig iawn i bobol ifanc yma yn Sir Feirionnydd. O ganu mewn eisteddfodau i farnu stoc ar fuarth fferm, rydym yn ceisio sicrhau bod y mudiad yn cynnig rhywbeth at ddant pawb. A drwy’r cyfan oll mae cymdeithasu, cael hwyl a chefnogi ein gilydd yn bwysig iawn. Mae’r mudiad hefyd yn chwarae rhan flaenllaw mewn cadw’r iaith Gymraeg yn fyw yn yr ardal.
Beth yw eich hoff ddigwyddiad gyda’r CFfI?
Y rali a’r eisteddfod yw prif ddigwyddiadau’r flwyddyn, felly mae’n debyg mai rhain yw ffefrynnau’r mwyafrif o aelodau, ond yn bersonol ma’ hwn yn gwestiwn anodd!
Dwi’n berson cystadleuol iawn a fy hoff gystadleuaeth oedd barnu stoc. Roeddwn yn lwcus iawn o ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth barnu stoc y sir a hefyd yn y gystadleuaeth barnu bîff yn y ‘Ffair Aeaf’ – gwobrau fydda i’n eu trysori am byth.
Beth yw’r her fwyaf yn y swydd newydd?
Rydym yn un o’r siroedd lleiaf yng Nghymru – 9 clwb sydd yn y sir, ac mae hynny’n gallu bod yn heriol. Byddaf yn mynd ati i geisio trefnu digon o weithgareddau at ddant pawb, a denu cymaint o aelodau newydd â phosib.
Sut ydych chi’n treulio eich amser y tu allan i’r gwaith?
Dwi’n mwynhau cadw fy hun yn brysur – dwi’n aelod o gôr Tregalaw ac yn ysgrifenyddes Cymdeithas y Parc eleni felly mae digon o waith trefnu digwyddiadau. Dwi hefyd yn mwynhau bod adre yn ffarmio wrth gwrs!
Swyddfa neu gae?
Cae! Dim byd gwell na newid o ddillad swyddfa i wellingtons a mynd allan i’r cae a gweld fy nefaid Texels hefo fy nghi defaid, Mac.
Pwy yw eich ysbrydoliaeth?
Yn rhyfedd iawn dechreuais y swydd yma ddeg mlynedd union i’r dyddiad i fy chwaer fawr Sioned ddechrau, fuodd hi yn y swydd yma am bedair blynedd. Bosib fy mod wedi dilyn hoel ei thraed, ond dwi’m yn hoff o gyfadde’ hynny! Mae’n rhaid diolch i Mam a Dad hefyd am fy annog drwy’r blynyddoedd a fy helpu mewn unrhyw ffordd.
Pa wahaniaeth hoffech chi ei wneud yn eich swydd?
Annog aelodau hynny y gallaf, cadw aelodau a chael rhai newydd. Byddai hefyd yn wych gweld Meirionnydd yn dod i’r brig yng nghystadlaethau cenedlaethol CFfI.