Mae dwy swydd newydd wedi’u llenwi gan Golwg dros yr wythnosau diwethaf, a dyma gyfle i ddod i adnabod ein Cynhyrchydd Creadigol ychydig yn well…
Enw a swydd:
Lleucu Jenkins, Cynhyrchydd Creadigol
Un o ble wyt ti?
Aberteifi
Ble o’t ti’n gweithio cynt?
Mi oeddwn yn gwneud gwaith Marchnata Digidol i’r Urdd, ac wedi mwynhau pob eiliad!
Rho syniad i ni o ddiwrnod arferol yn y gwaith fel Cynhyrchydd Creadigol Golwg360
Paned o de yw’r cam cyntaf i ddiwrnod yn y gwaith, wedyn a’i ati i weld beth sydd ar y gweill gyda’r materion cyfoes yng Nghymru. Ar ôl ddarganfod y straeon diweddaraf mae’r gwaith creu yn cychwyn, rhwng cynllunio, golygu fideos neu weithio ar bodlediad Golwg360, mae diwrnod arferol yn y gwaith yn hedfan heibio.
Gan dy fod ti’n deall dy stwff am gyfryngau cymdeithasol.. Insta neu Tiktok?
Insta – lle da i ddal ysbrydoliaeth greadigol.
Twitter neu Threads?
Dwi’n osgoi treulio gormod o amser ar y ddau.
Beth yw’r gyfrinach i greu cynnwys materion cyfoes sy’n apelio at gynulleidfa newydd?
Sicrhau cydbwysedd o’r newyddion ysgafn a trwm trwy wneud popeth yn ddealladwy heb siarad lawr at bobol.
Tri chyfrif i’w dilyn?
Golwg360 wrth gwrs! Dwi hefyd yn mwynhau cynnwys CodiPais a Letterboxd.
Beth yw’r cynnwys newydd sydd ar y gweill gyda Golwg360?
Dwi’n edrych ‘mlan i lansio podlediad Golwg360 yn yr Eisteddfod a’i ddatblygu ymhellach i ryddhau podlediadau’n fisol.
Beth wyt ti’n hoffi ei wneud yn dy amser sbâr?
Os nad yn treulio amser gyda ffrindiau, dwi’n tueddu darllen nofelau, sgetsio dŵdls neu ffilmio ar gyfer fy nghyfrif Insta @lleucuelisa a photsian gyda hen gamerâu Tad-cu. Dwi hefyd wrth fy modd gydag anifeiliaid, ac felly yn treulio llawer o’m hamser yng nghanol cobiau Cymreig gyda Mam-gu.