Math o Gontract: Amser llawn, cyfnod penodol tan 31 Rhagfyr 2025
Cyflog: £31,113 – £33,114 y flwyddyn pro rata (Gradd 6)
Please note: Fluency in Welsh is essential for this post. An English copy of the below is available on request.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion â phrofiad helaeth yn y maes am swydd cyfieithydd gyda’r Tîm Cyfieithu yn CBAC. Bydd yr unigolyn yn gweithio mewn adran brysur ac yn cyfrannu at sicrhau bod CBAC yn darparu gwasanaeth dwyieithog llawn i’w gwsmeriaid a’i randdeiliaid yn fewnol ac yn allanol.
Yr her
CBAC yw prif gorff dyfarnu Cymru. Ymhlith yr hyn yr ydym yn ei gyfrannu at ein cymunedau addysg y mae darpariaeth cymwysterau dibynadwy a chefnogaeth arbenigol, fel y gall ein dysgwyr gael y cyfle i gyrraedd eu potensial yn llawn. Dyma gyfle gwych felly i fod yn rhan o gorff sy’n annog ac yn gwella meddyliau’r dyfodol.
Y rôl
Mae hon yn rôl sy’n allweddol o ran sicrhau bod CBAC yn cynnig gwasanaeth dwyieithog llawn i’w gwsmeriaid a’i randdeiliaid. Bydd deiliad y swydd hon yn cydweithio’n agos ag aelodau eraill y Tîm Cyfieithu ac aelodau’r Gwasanaeth Iaith yn ehangach, ond bydd ganddyn nhw hefyd y gallu i weithio’n annibynnol i gyflawni tasgau’n brydlon yn ôl amserlenni tynn. Un o nodau hanfodol y swydd hon yw cynnal safonau ieithyddol uchel CBAC. Disgwylir i’r unigolyn wneud defnydd llawn o feddalwedd cof cyfieithu (Déjà Vu) wrth ei waith bob dydd.
Yr unigolyn
I ffynnu yn y rôl hon, byddwch chi’n aelod cydwybodol a gweithgar o’r tîm ac yn gallu cyfathrebu’n rhwydd yn y Gymraeg a’r Saesneg. Gallwch dalu sylw gofalus a manwl gywir i’ch gwaith a bydd gennych ddiddordeb ym maes terminoleg y Gymraeg. Mae CBAC yn un o’r cyrff sy’n ganolog i’r byd addysgu ac asesu yng Nghymru ac mae’n bwysig bod ei ddeunyddiau’n cyfateb i’r hyn sydd ar gael yn ehangach.
Ein buddion
Mae’r rôl hon yn un hybrid, sy’n galluogi’r ymgeisydd llwyddiannus i rannu ei amser rhwng gweithio yn ein swyddfeydd yng Nghaerdydd a gweithio o bell. Mae CBAC yn lle cynhwysol a chefnogol i weithio, sy’n falch o gynnig amrediad eang o fuddion hael i’w gyflogeion gan gynnwys: 25 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (ynghyd ag 16 o ddyddiau statudol/ychwanegol), cyfleoedd i hyfforddi a datblygu a chynllun pensiwn da.
Os hoffech wybod mwy am y rôl hon, neu am weithio yn CBAC, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm Adnoddau Dynol (AD@cbac.co.uk), a fydd yn fwy na pharod i helpu.
Bydd y rôl hon ar gael am gyfnod o 1 flwyddyn/hyd at ddiwedd Rhagfyr 2025 yn y lle cyntaf.
Rôl cyfrwng Cymraeg yw hon felly bydd gofyn i unrhyw ymgeiswyr ddangos eu gallu i’r safon ddigonol yn rhan o’u cais.
Ewch i’n gwefan i lwytho copi o’r disgrifiad swydd a ffurflen gais i lawr.
Dyddiad cau: 23:59; dydd Llun, 04 Tachwedd 2024
Disgwylir cynnal cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 18 Tachwedd 2024.
SWYDD-DDISGRIFIAD
Teitl y Swydd: Cyfieithydd (Cymraeg)
Adran: Gwasanaeth Iaith
Is-Adran:Cyfieithu
Yn atebol I: Arweinydd yr Uned Gyfieithu
Graddfa: 6
Lleoliad: Rhodfa’r Gorllewin, Caerdydd
Prif ddiben y Swydd:
Cyfrannu at y gwaith o ddarparu gwasanaeth dwyieithog llawn yn CBAC. Bydd gofyn gwneud defnydd llawn o dechnoleg cyfieithu o ddydd i ddydd er mwyn cyflawni’r gwaith.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau:
Dan gyfarwyddyd cyffredinol Arweinydd yr Uned Gyfieithu:
- Gweithio fel rhan o dîm cyfieithu prysur yn ateb gofynion cyfieithu corff sy’n cyflym ddatblygu.
- Gwneud gwaith cyfieithu, golygu neu ddarllen proflenni dogfennau a gynhyrchir yn fewnol (gall y rhain cynnwys deunyddiau gweinyddol ar gyfer canolfannau, deunyddiau pwnc-benodol ac amrywiaeth o ddeunyddiau corfforaethol e.e. cyllid, AD, Marchnata) neu olygu a darllen proflenni gwaith unrhyw ddogfennau a gyfieithir yn allanol.
- Sicrhau y dilynir yr arddull a’r cywair priodol ar gyfer y gynulleidfa darged wrth gyfieithu gan ddefnyddio Arddulliadur ac Arddulliadur Papurau Cwestiynau CBAC.
- Gwneud defnydd llawn o feddalwedd cyfieithu Déjà vu yn ddyddiol ar gyfer cwblhau unrhyw waith cyfieithu gan gyfrannu at gefnogi’r defnydd o’r cof.
- Ymgynghori â’r rheolwr llinell ynglŷn â’r hyn sy’n angenrheidiol gan weithio’n ôl gweithdrefnau addas a blaengynllunio’n effeithiol.
- Darparu cyfieithiadau o ddydd i ddydd o unrhyw ohebiaeth cyfrwng Cymraeg a gyfeirir at aelodau o’r staff nad ydynt yn medru’r Gymraeg a chyfieithu’r ymateb i ohebiaeth o’r fath i’r Gymraeg.
- Gallu gweithio’n hyblyg ac ar adegau yn fyrfyfyr er mwyn ateb gofynion y Gwasanaeth Iaith a CBAC yn ehangach ar fyrder.
- Cyfrannu at unrhyw drafodaeth â’r golygyddion adnoddau/golygyddion papurau arholiad yn rhan o’r gwaith bob dydd o ddatblygu gwasanaeth dwyieithog o safon yn CBAC.
- Yn rhan o hyn, cyfrannu at waith termau’r Gwasanaeth Iaith sy’n cynnwys cydweithio â Chanolfan Bedwyr.
Arall
- Deall a chydymffurfio â holl bolisïau a gweithdrefnau CBAC a nodir yn y Llawlyfr Staff; yn benodol, sicrhau eich bod yn deall eich rôl a’ch cyfrifoldebau mewn perthynas â Diogelu, Diogelwch Gwybodaeth, GDPR, Cyfrinachedd, yr iaith Gymraeg ac Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd.
- Cymryd rhan weithredol yn y gwaith o gefnogi egwyddorion ac arfer cydraddoldeb cyfle fel y’i nodir ym Mholisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth CBAC, gan ymgorffori Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ym mhob project, polisi ac arfer.
- Bod yn aelod rhagweithiol o’r tîm, gan gyfrannu’n gadarnhaol at gyfarfodydd a phrojectau i gefnogi nodau ac amcanion CBAC.
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau datblygu personol a phroffesiynol sy’n berthnasol i’r rôl.
- Ymgymryd â dyletswyddau eraill yn ôl y galw sy’n gymesur â gradd y swydd.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- CBAC
- Math o swydd
- Llawn amser
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 4 Tachwedd 2024