Ofcom Cymru

Cynorthwyydd Materion Rheoleiddiol Ofcom Cymru

Dyddiad cau: 13 Mai 2024

Cyflog: Cystadleuol

Lleoliad: Caerdydd

Llawn amser gyda threfniadau gweithio hybrid ar gael

Rôl barhaol


Mae Ofcom Cymru yn chwilio am Gynorthwyydd Materion Rheoleiddiol i ymuno â’r tîm yn y swyddfa yng Nghaerdydd.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn siaradwr Cymraeg rhugl gyda phrofiad fel Cynorthwyydd Personol/Gweithredol neu Weinyddwr Tîm, o gyflawni prosiectau, rheolaeth swyddfa a busnes.

Yn rôl hanfodol i weithrediad effeithiol tîm Ofcom Cymru, bydd deiliad y swydd yn rhoi cymorth personol a gweithredol i Gyfarwyddwr newydd Ofcom yng Nghymru, tîm ehangach Cymru a chydweithwyr eraill yn y sefydliad.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn darparu amrywiaeth o faterion rheoli swyddfa, cyfleusterau, TGCh a chyllid yn ogystal â threfnu a chefnogi cyfarfodydd Pwyllgor Cynghori statudol Ofcom yng Nghymru, sy’n cynghori Ofcom ar farn defnyddwyr a phobl Cymru ar draws y cyfrifoldebau rheoleiddio’r sefydliad.

Mae Ofcom yn chwilio am unigolyn sydd â sgiliau gweinyddol a threfniadol rhagorol; sgiliau rhyngbersonol a gwaith tîm da; ac ymagwedd ragweithiol at ddatrys problemau.

Tîm Ofcom Cymru

Mae tîm Ofcom Cymru yn cynrychioli Ofcom yng Nghymru a Chymru yn Ofcom – gan reoli ei chysylltiadau a’i ffyrdd o gyfathrebu gyda phobl Cymru ac amrywiaeth eang o randdeiliaid o’r diwydiant, gan gynnwys gwleidyddion, y diwydiant a’r cyfryngau. Mae’r tîm yn rheoli pob agwedd ar gylch gwaith Ofcom ac mae’n rhoi mewnbwn a chyngor ar faterion fel y maent yn berthnasol i Gymru i dimau polisi a phrosiectau ar draws Ofcom. Drwy ymarferion ymgynghori helaeth, amrywiaeth o ddigwyddiadau a chysylltiadau gwaith sydd wedi hen ennill eu plwyf gyda rhanddeiliaid, mae’r tîm yn sicrhau bod ei fys ar y pwls a’i fod yn ymwybodol iawn o anghenion y diwydiant, defnyddwyr a dinasyddion yng Nghymru.

Yn Ofcom, mae amrywiaeth yn hollbwysig. Mae’r corff wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd cynhwysol, gan hyrwyddo amrywiaeth o bob math. Mae’r prosesau recriwtio yn hygyrch i bawb, ac mae Ofcom yn cefnogi patrymau gweithio hyblyg. Ymunwch ag Ofcom a gwnewch wahaniaeth mewn gwasanaethau cyfathrebu i bawb.

I ymgeisio, cyflwynwch eich CV a llythyr eglurhaol i applications@goodsonthomas.com.

Dyddiad cau: 12pm, 13 Mai 2024

Dyddiad y cyfweliad: I’w gadarnhau

Bydd pob cais yn cael ei gydnabod.

Enw’r cwmni neu sefydliad
Ofcom Cymru
Dyddiad cau i ymgeiswyr
13 Mai 2024
Ynni Cymunedol Twrog

Rheolwr Datblygu Rhan Amser

Dyddiad cau: Mai 30
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Swyddog Ariannu – Canolbarth a Gorllewin Cymru

Dyddiad cau: Mai 19
Prifysgol Bangor

Swyddog Project (60% CALl)

Dyddiad cau: Mai 17
Tinopolis

Cynhyrchydd (Dwy swydd)

Dyddiad cau: Mai 13
Prifysgol Bangor

Cyfathrebwr Estyn Allan STEM (40% CALl)

Dyddiad cau: Mai 13
Ofcom Cymru

Cynorthwyydd Materion Rheoleiddiol Ofcom Cymru

Dyddiad cau: Mai 13
Golwg Cyf 

Swyddog Prosiect Ymbweru Bro  (ardal Wrecsam) 

Dyddiad cau: Mai 13

Cylchlythyr