Prifysgol Bangor

Cyfathrebwr Estyn Allan STEM (40% CALl)

Dyddiad cau: 13 Mai 2024

PRIFYSGOL BANGOR

YMESTYN YN EHANGACH

Cyflog: £25,724 – £27,181 y flwyddyn pro rata (Graddfa 5)

(Cyf: BU03532)


Gwahoddir ceisiadau  am y swydd ran amser uchod (14.5 awr yr wythnos) yn gweithio ar y Project Ymestyn yn Ehangach yn y Gyfarwyddiaeth Marchnata, Recriwtio a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Bangor.

Diben y swydd yw cefnogi’r gwaith o gyflwyno gweithdai STEM mewn ysgolion i Bartneriaeth Ymestyn yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru.

Bydd y swydd yn cynorthwyo swyddog cefnogi’r Project Ymestyn yn Ehangach i gyflwyno gweithgareddau ac arbrofion difyr ac addysgiadol i bobl ifanc yn ysgolion cynradd ac uwchradd y rhoddir blaenoriaeth iddynt trwy’r rhaglen Ymestyn yn Ehangach.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi cael addysg i safon lefel A neu gyfwerth a bydd ganddo / ganddi brofiad o weithio ym maes addysg STEM, ac o ddatblygu a chyflwyno cyflwyniadau a gweithdai ac iddynt ddeilliannau dysgu amlwg.

Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau cyn gynted ag y bo’n rhesymol bosibl ac mae’r swydd ar gael tan 31 Awst 2025. Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd hon.

Mae’r swydd hon yn amodol ar archwiliad uwch boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor neu Wrecsam. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.

Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.

Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal

Enw’r cwmni neu sefydliad
Prifysgol Bangor
Dyddiad cau i ymgeiswyr
13 Mai 2024
Rhagor o wybodaeth
Ynni Cymunedol Twrog

Rheolwr Datblygu Rhan Amser

Dyddiad cau: Mai 30
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Swyddog Ariannu – Canolbarth a Gorllewin Cymru

Dyddiad cau: Mai 19
Prifysgol Bangor

Swyddog Project (60% CALl)

Dyddiad cau: Mai 17
Tinopolis

Cynhyrchydd (Dwy swydd)

Dyddiad cau: Mai 13
Prifysgol Bangor

Cyfathrebwr Estyn Allan STEM (40% CALl)

Dyddiad cau: Mai 13
Ofcom Cymru

Cynorthwyydd Materion Rheoleiddiol Ofcom Cymru

Dyddiad cau: Mai 13
Golwg Cyf 

Swyddog Prosiect Ymbweru Bro  (ardal Wrecsam) 

Dyddiad cau: Mai 13

Cylchlythyr