Llywodraeth Cymru

Comisiynwyr/ Aelodau Bwrdd i Gomisiwn Dylunio Cymru

Dyddiad cau: 18 Tachwedd 2024

Penodi Comisiynwyr/ Aelodau Bwrdd i Gomisiwn Dylunio Cymru – 1 x (Cymraeg yn Hanfodol) 3 x (Cymraeg yn Ddymunol)

Dyddiad cau : 18/11/2024 16:00 

Mae Gweinidog y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn chwilio am hyd at bedwar Chomisiynydd newydd i ymuno â Bwrdd Comisiwn Dylunio Cymru (DCFW Ltd).

Allwch chi helpu i wneud Cymru’n lle gwell? Os ydych chi’n rhhanu ein hangerdd am ddylunio da sy’n gwneud popeth yn well a rydych am ymuno â ni i hyrwyddo safonau uchel o ddylunio a ddylunio a phensaernïaeth byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

DCFW yw’r corff cynghori cenedlaethol ar gyfer hyrwyddo rhagoriaeth dylunio ar draws yr amgylchedd adeiledig. Sefydlwyd DCFW Ltd yn 2002 gan Lywodraeth Cymru i gyflawni’r rôl hon a helpu i wneud Cymru’n lle gwell.

Rydym yn chwilio am hyd at dri Chomisiynydd newydd i ymuno â Bwrdd DCFW. Rydym yn hyderus bod yna rai pobl a gweithwyr proffesiynol talentog iawn sy’n frwdfrydig dros yr amgylchedd adeiledig, gyda’r sgiliau a’r profiad i ychwanegu dimensiwn newydd at DCFW. Bydd disgwyl ichi weithredu fel llysgennad dros DCFW a’i waith er mwyn gwella proffil a diben y sefydliad.

Dylech werthfawrogi ac ymddiddori llawer mewn dylunio da, creu lleoedd a phensaernïaeth yn ogystal â sgiliau trosglwyddadwy sy’n berthnasol i lywodraethu corfforaethol, cyllid a chyfathrebu.

Mae gennym ddiddordeb mewn clywed gennych beth bynnag yw eich cefndir ac os yw eich diddordeb mewn dylunio, creu lleoedd a phensaernïaeth yn dod o brofiad yn eich bywyd gwaith, eich busnes eich hun, y gymuned neu fel gwirfoddolwr.

Mae’n debygol y bydd cyfarfodydd bwrdd yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd yn bennaf, ond hefyd mewn lleoliadau ledled Cymru ac ar-lein drwy gynhadledd fideo.

Mae’n bolisi gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo cyfle cyfartal a’i ymgorffori ym mhob agwedd ar ei gwaith, gan gynnwys penodiadau i gyrff cyhoeddus. Croesewir ac anogir ceisiadau gan bob grŵp ac rydym yn sicrhau na fydd unrhyw ymgeisydd cymwys am swydd gyhoeddus yn cael ei drin yn llai ffafriol ar sail oedran, anabledd, rhyw, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn cael eu parchu, a phenodir ar sail teilyngdod.

Disgwylir cynnal cyfweliadau yn ystod mis Ionawr 2025.

Enw’r cwmni neu sefydliad
Llywodraeth Cymru
Dyddiad cau i ymgeiswyr
18 Tachwedd 2024
Rhagor o wybodaeth
Llywodraeth Cymru

Comisiynwyr/ Aelodau Bwrdd i Gomisiwn Dylunio Cymru

Dyddiad cau: Tachwedd 18
CBAC

Cyfieithydd (Cymraeg)

Dyddiad cau: Tachwedd 4
Llyr James

Cyfrifydd Cymwysedig Neu Rannol-Gymwysedig

Dyddiad cau: Hydref 28
Cyngor y Gweithlu Addysg

Swyddog Cymorth Corfforaethol

Dyddiad cau: Hydref 22
Coleg Cymraeg

Penodi Aelod Bwrdd

Dyddiad cau: Hydref 30

Cylchlythyr