Ar ôl blynyddoedd yn gweithio’n llawrydd, mae Nia Wyn Skyrme o Bencaerau ym Mhen Llŷn wedi’i phenodi’n Gynhyrchydd gyda Theatr Genedlaethol Cymru. Felly sut swydd yw swydd Cynhyrchydd? Aeth golwg360 i’w holi…
Disgrifiwch ddiwrnod arferol yn eich swydd.
– Cyfarfod dal fyny gyda’r tîm cynhyrchu
– Sgyrsiau gyda theatrau a chanolfannau
-Negoditelerau cytundebol
– Creu a threfnu teithiau
– Llawer o spreadsheets!
Sut ydych chi’n chwilio am yr awen i fod yn greadigol?
Mynd i weld gwaith pobl eraill – yn y theatr, ysgol, neuadd gymunedol neu galeri celf. Mae pobl eraill a’u gwaith yn ysbrydoliaeth fawr i mi.
Beth yw’r her fwyaf yn eich swydd?
Yn llawrydd, dwi wedi arfer â gweithio llawer ar fy mhen fy hun, felly bydd cofio fy mod i’n gweithio mewn tîm yn bwysig wrth ddechrau. Mae Theatr Gen yn gwneud cymaint o bethau amrywiol hefyd; bydd gweithio ar gymaint o bethau ar yr un pryd yn hwyl ac yn her.
Beth yw’r darn o gyngor gorau i chi ei gael?
‘Never say never’. Roeddwn yn aml yn dweud ‘na’ neu ‘byth’. Dwi wedi dysgu i beidio gwrthod profiadau newydd mewn gwaith ac mewn bywyd, gan nad ydych fyth yn gwybod beth sydd yn dod nesa.
Pan nad ydych yn gweithio, beth fyddwch chi’n ei wneud?
Treulio amser gyda theulu a ffrindiau. Dwi’n mwynhau pilates, mynd i’r sinema a’r theatr. Pan ga’i fwy o amser hoffwn i ailgydio mewn brwsh paent a phensil a dechrau arlunio eto.
Byw i weithio neu weithio i fyw?
Roeddwn i’n arfer meddwl ‘byw i weithio’. Dwi yn dipyn o ‘workaholic’. Dwi’n meddwl bod hyn wedi dod gan Mam a Dad – pobl weithgar iawn! Dwi’n lwcus iawn i weithio yn y sector dwi’n ei garu, ac ar brydiau mae’r llinell yn denau iawn rhwng fy niddordeb a gwaith. Mae’n hawdd iawn gweithio bob awr o’r dydd fel person llawrydd, yn enwedig os ydych mor angerddol am y gwaith a’r prosiect. Ond dwi wedi dysgu bod yn rhaid rhoi’r teclynnau i ffwrdd, a rhoi saib i’r meddwl o’r gwaith a byw yn y foment gyda’r plant a’r teulu. Felly mae’n rhaid i mi feddwl rŵan mai ‘gweithio i fyw’ ydw i.
Cafodd y swydd hon ei hysbysebu yn Golwg ac ar golwg360.