Swyddog Archwilio Meddygol – 4 swydd mewn lleoliadau gwahanol (Caerdydd, Casnewydd, Llanelwy a Llanelli – un swydd ym mhob lleoliad).
Dyddiad Cau: 25 Medi 2024
Ysgod cyflog: £28,834 to £35,099 y flwyddyn
Cytundeb: Llawn amser, parhaol
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn sydd â phrofiad nyrsio, clinigol neu ofal perthynol i iechyd ymuno â’r tîm o Swyddogion Archwilio Meddygol. Ledled Cymru, mae’r tîm Swyddogion Archwilio Meddygol presennol yn cynnwys Swyddogion Archwilio Meddygol o amrywiaeth o gefndiroedd gan gynnwys nyrsio, gwyddonwyr biofeddygol, ymarferwyr adran triniaethau, archwilio clinigol, parafeddygon a dieteg. Bydd cefndiroedd addas eraill yn cael eu hystyried ond mae profiad mewn lleoliad gofal iechyd yn hanfodol. Mae’r gallu i gyfathrebu ar lafar a deall Cymraeg ar lefel 3 neu uwch yn ddymunol iawn ar gyfer y swyddi hyn. Ewch i’n gwefan am fwy o fanylion: Job search results – NHS Jobs
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- NHS
- Math o swydd
- Llawn amser
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 25 Medi 2024