Swyddog Datblygu Gyrfa
Dyddiad Cau: 26 Medi 2024
Ystod cyflog: £28,834 to £35,099 y flwyddyn
Cytundeb: Llawn amser, parhaol
Fel rhan o’r tîm Pobl a Datblygu Sefydliadol, bydd y swydd hon yn cefnogi’r tîm ym meysydd ehangu mynediad a datblygu gyrfa.
Byddwch yn sicrhau bod Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) yn ymgysylltu’n llawn ac yn cael ei chynrychioli mewn cyfleoedd addas i ymgysylltu â darpar brentisiaid a hyfforddeion o bob oed trwy amrywiol gyfryngau sydd ar gael. Byddwch yn cydweithio ag ysgolion, colegau a phrifysgolion wrth gydlynu a gweinyddu cyfleoedd ar gyfer lleoliadau profiad gwaith a digwyddiadau gyrfa.
Byddwch yn rhoi cyngor ac arweiniad i reolwyr ac arweinwyr ynghylch cyfleoedd dechrau gyrfa gynnar. Mae’r gallu i gyfathrebu ar lafar a deall y Gymraeg ar lefel 3 neu uwch yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Ewch i’n gwefan am fwy o wybodaeth: Hysbyseb Swydd (jobs.nhs.uk)
Diolch, Llion.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- NHS
- Math o swydd
- Llawn amser
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 26 Medi 2024