Mae gwaith Bro360 yn ymestyn – i weithio gydag ardaloedd newydd, ac i gynnig gweithgarwch newydd, cyffrous i gymunedau.
Er mwyn gwireddu rhaglen newydd Ymbweru Bro, mae Golwg yn awyddus i benodi:
Swyddog Prosiect Ymbweru Bro
Mae’r swydd hon yn allweddol i ddatblygiad Bro360, ac yn gyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth i bobol, i’r Gymraeg ac i gymunedau Wrecsam a’r cyffiniau.
Y swydd:
- Creu cysylltiadau, a meithrin perthynas â’r cymunedau, y cyfranogwyr a busnesau lleol.
- Ar y cyd â’r gymuned leol a’r Cydlynydd, gwireddu rhaglen o brosiectau unigryw Ymbweru Bro ar sail angen a photensial y gymuned.
- Galluogi a chefnogi unigolion, mudiadau a grwpiau o bobol o bob math i gymryd rhan ac i gyfrannu at bob elfen o’r prosiect, a allai gynnwys manteisio ar eu gwefan fro.
- Cyfathrebu a hyrwyddo’r prosiect yn lleol.
- Cyfrannu at drefnu rhaglenni hyfforddiant a digwyddiadau.
Y person:
- Adnabyddiaeth dda o ardal Wrecsam a’r cymunedau
- Y gallu i drin pobol yn effeithiol.
- Sgiliau cyfathrebu cryf.
- Syniadau creadigol ac unigryw.
- Egnïol a brwdfrydig.
Lleoliad y swydd: Gweithio o adre, gyda phwyslais ar weithio yn y gymuned leol
Cyflog: I’w drafod, yn unol â phrofiad
Oriau gwaith: Rhan-amser neu lawn-amser
Am sgwrs anffurfiol a chopi o’r disgrifiad swydd llawn, cysylltwch â Lowri: lowrijones@golwg.cymru / 01570 423 529
I ymgeisio: anfonwch lythyr cais, CV llawn ac enw dau ganolwr at lowrijones@golwg.cymru
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Golwg Cyf
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 13 Mai 2024