Prifysgol Bangor

Swyddog Project (60% CALl)

Dyddiad cau: 17 Mai 2024

PRIFYSGOL BANGOR

YMESTYN YN EHANGACH

Cyflog: £29,605 – £36,024 y flwyddyn pro rata (Graddfa 6)

(Cyf: BU03533)

Gwahoddir ceisiadau am swydd cyfnod penodol, rhan amser (21.75 awr yr wythnos) yn gweithio ar raglen fentora genedlaethol, yn gyfrifol am recriwtio, darparu a hyrwyddo rhaglen fentora genedlaethol ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 hyd at 2025, gan ddefnyddio llwyfan mentora ar-lein sydd eisoes mewn bodolaeth. Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar y Project Ymestyn yn Ehangach yn y Gyfarwyddiaeth Marchnata, Recriwtio a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Bangor.

Dylai ymgeiswyr fod wedi cael addysg i safon gradd (neu gymhwyster cyfwerth) mewn maes pwnc perthnasol a bod â phrofiad o ymwneud â charfannau targed Ymestyn yn Ehangach trwy waith estyn allan a/neu raglenni mentora mewn cyd-destun addysgol.

Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol i’r swydd hon.

Mae’r swydd hon yn amodol ar archwiliad uwch boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau cyn gynted ag y bo modd ac mae’r swydd ar gael tan 31 Awst 2025.

Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor neu Wrecsam. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.

Derbynnir ceisiadau trwy wefan recriwtio ar-lein Prifysgol Bangor, sef jobs.bangor.ac.uk.  Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.

Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â Ms Paula Griffiths, Rheolwr y Bartneriaeth drwy e-bost: p.griffiths@bangor.ac.uk

Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 17 Mai 2024

Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal

Enw’r cwmni neu sefydliad
Prifysgol Bangor
Dyddiad cau i ymgeiswyr
17 Mai 2024
Rhagor o wybodaeth
Cyngor Sir Gâr

Cyfarwyddwr Addysg, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Dyddiad cau: Mai 31
Ynni Cymunedol Twrog

Rheolwr Datblygu Rhan Amser

Dyddiad cau: Mai 30
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Swyddog Ariannu – Canolbarth a Gorllewin Cymru

Dyddiad cau: Mai 19
Prifysgol Bangor

Swyddog Project (60% CALl)

Dyddiad cau: Mai 17

Cylchlythyr