Yr Eglwys yng Nghymru

Rheolwr Prosiect

Dyddiad cau: 3 Hydref 2024

F (£43,740 – £49,488) y flwyddyn

 

Lleoliad – 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd neu Hybrid

 

Parhaol – Llawn amser (34.75 awr yr wythnos).

 

Bydd ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn patrymau gwaith amgen yn cael eu hystyried; fodd bynnag, gall anghenion busnes osod cyfyngiadau ar y trefniadau a gynigir.

 

Dyma gyfle cyffrous i helpu adeiladu dyfodol yr Eglwys yng Nghymru – sefydliad sydd yn rhan hanfodol o gymdeithas Cymru ac sy’n bresennol ym mhob cymuned. Mae gennym genhadaeth gymdeithasol glir, ynghyd â llais cenedlaethol pwysig, dylanwad pellgyrhaeddol a neges obeithiol.

Mae rôl y Rheolwr Prosiect yn swydd newydd ac yn rhan o Grŵp Cenhadaeth a Strategaeth Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru. Bydd y rôl yn llywio’r dasg o gyflawni rhai o’n prif amcanion strategol er mwyn gwella ac ehangu ein gwaith mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys: addysg; ynni gwyrdd; codi arian; dyngarwch a hyrwyddo’r Gymraeg.

 

Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol profiadol sy’n gallu cyflawni prosiectau aml-sianel yn brydlon, sy’n gallu ymchwilio a datblygu cynlluniau prosiect, adeiladu consensws a defnyddio adnoddau i gyflawni mentrau mawr trawsnewidiol o’u cychwyn i’w cwblhau.  

Bydd y sawl a benodir yn gallu clustnodi cyflawniadau, metrigau perfformiad a safonau ansawdd a’u defnyddio er mwyn monitro cynnydd, gan sicrhau cefnogaeth barhaus gan randdeiliaid mewnol ac allanol, gan gynnwys arweinyddiaeth Daleithiol ac Esgobaethol, Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a chyrff cyhoeddus a phreifat.  Mae natur y rôl yn golygu y bydd y cynnwys yn newid yn barhaus wrth i brosiectau gael eu cwblhau ac wrth i rai newydd gael eu cychwyn. 

Mae’r rôl hon yn gofyn am rywfaint o hyblygrwydd o ran oriau gwaith a lleoliad, gan gynnwys rhywfaint o deithio yng Nghymru a thu hwnt, ac aros dros nos yn achlysurol.

Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad DBS boddhaol.

Dyddiad cau: Dydd Iau 03 Hydref 2024 am 10:00am

Cysylltu: HR@cinw.org.uk / 0292034 8200

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i:                       https://www.churchinwales.org.uk/en/about-us/work-us/

Enw’r cwmni neu sefydliad
Yr Eglwys yng Nghymru
Math o swydd
Llawn amser
Dyddiad cau i ymgeiswyr
3 Hydref 2024
Yr Eglwys yng Nghymru

Rheolwr Prosiect

Dyddiad cau: Hydref 3
NHS

Swyddog Datblygu Gyrfa

Dyddiad cau: Medi 26
NHS

Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Dyddiad cau: Hydref 6
Tinopolis- Caernarfon

Ymchwilydd

Dyddiad cau: Medi 27
Cyngor Sir Ceredigion

Is Arweinydd De Cymru E-sgol

Dyddiad cau: Hydref 10
Prifysgol Caerdydd

Tiwtoriaid yn y Gyfraith (Cyfrwng Cymraeg)

Dyddiad cau: Medi 24
S4C

Prif Weithredwr

Dyddiad cau: Medi 30
Severn Wye

Cynghorydd Ynni Cymunedol (Ceredigion)

Dyddiad cau: Medi 26

Cylchlythyr