Jest y Job i Ruth Dennis gyda’r Lolfa

Ruth Myfanwy Dennis, sy’n wreiddiol o’r Fflint ond sydd wedi byw yn Nhal-y-bont ers un mlynedd ar ddeg, yw Rheolwr Swyddfa newydd Y Lolfa.

Ruth Myfanwy Dennis, sy’n wreiddiol o’r Fflint ond sydd wedi byw yn Nhal-y-bont ers un mlynedd ar ddeg, yw Rheolwr Swyddfa newydd Y Lolfa.

Beth fuoch chi’n ei wneud cyn y swydd hon?

Bues i’n gynorthwy-ydd yn Ysgol Gymunedol Tal-y-bont.

Sut ydych chi’n treulio eich amser y tu allan i’r gwaith?

Rwy’n darllen amrywiaeth eang o lyfrau ac yn mwynhau cerdded, yn enwedig yn ardaloedd gwledig Cymru a’r Alban. Rwyf hefyd yn hoff iawn o wylio hen ffilmiau du a gwyn yn ogystal â’r rhai diweddaraf.

Rhowch syniad i ni o ddiwrnod arferol yn eich swydd newydd.

Diwrnod arferol, hyd yma, yw ateb y ffôn, delio gyda’r post ac ebyst, pacio a phostio archebion i amryw o lefydd yma yng Nghymru neu dros y byd. Mae angen i mi gyfarch unrhyw ymwelwyr neu gwsmeriaid a bod yn gyfrifol am ddiweddaru cronfeydd data, megis stoc y warws a’r siop.

Hoffech chi baned?

Dwi’n hoffi fy mhaned mewn mwg gyda blodau pabi drosto ac rwyf yn hoff iawn o goffi llaeth gydag un llwyaid o siwgr brown ynddo. Serch hynny, te yw fy hoff baned, yn enwedig y peth cyntaf yn y bore.

Beth yw eich swydd orau hyd yn hyn?

Gweithio fel rheolwraig ar gylch meithrin yn yr Alban am rai blynyddoedd. Roedd yn braf iawn cael dod i adnabod cymaint o blant a’u teuluoedd yn y dref ble’r oeddwn yn byw.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Buaswn yn gwahodd Emma Thompson, Michael Sheen, Billy Connolly, Victoria Wood ac Elizabeth Gaskell, sef actorion, comedïwyr, ac awdur rhai o’m hoff lyfrau, er mwyn cael sgwrs ddifyr. Hoffwn gael pryd o fwyd llysieuol neu gyda physgod, gan nad wyf yn bwyta cig. I ddilyn buaswn wrth fy modd gyda sorbet aeron coch, cyn belled nad oes yn rhaid i mi goginio dim ohono!

Beth yw’r ŵyl orau i chi fynd iddi?

Yr ŵyl dwi’n cofio mwynhau yn bennaf oedd Eisteddfod yr Urdd 1977 yn y Barri. Bu nifer ohonom o Ysgol Heol Gaer yn aros gyda theuluoedd ac fe enillon ni’r gystadleuaeth parti canu.

Pa lyfr sydd ar erchwyn y gwely ar hyn o bryd?

Fel mae’n digwydd, y llyfr rwy’ ar ei chanol yw Afallon, gan Robat Gruffudd, a sefydlodd Y Lolfa yn 1967.

Beth yw’r peth gorau am y Lolfa?

Y staff cyfeillgar a’r holl lyfrau, hyd yma!

 

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu yn Golwg ac ar Golwg360.

Llywodraeth Cymru

Aelodau

Dyddiad cau: Mehefin 6
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Swyddog Iaith Gymraeg

Dyddiad cau: Mehefin 3
Cadw

Ceidwad Cadw (Gogledd Cymru)

Dyddiad cau: Mai 29
Cadw

Ceidwad Cadw (De Cymru)

Dyddiad cau: Mai 29
Senedd Cymru

Rheolwr Gwybodaeth i’r Cyhoedd

Dyddiad cau: Mai 28
Menter a Busnes

Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata Menter a Busnes

Dyddiad cau: Mehefin 5
Menter a Busnes

Pennaeth Technoleg, Newid ac Arloesi Menter a Busnes

Dyddiad cau: Mehefin 5
Menter a Busnes

Pennaeth Datblygu Masnachol Menter a Busnes

Dyddiad cau: Mehefin 5
Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

Rheolwr Gweinyddol

Dyddiad cau: Mai 31
Cyngor Sir Gâr

Cyfarwyddwr Addysg, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Dyddiad cau: Mai 31

Cylchlythyr