“Mae angen cymryd newyddion lleol o ddifri” medde Morgan – gohebydd newydd Bro360

Morgan Owen – brodor o Ferthyr Tudful sydd bellach yn byw yn Aberystwyth – yw’r aelod diweddaraf o dîm Bro360.

Penodi Pwy?

 

Morgan Owen – brodor o Ferthyr Tudful sydd bellach yn byw yn Aberystwyth – yw aelod diweddaraf tîm Bro360.

Mae gwefannau newyddion lleol Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen a Bro Aber ar fin mynd yn fyw, a byddant yn blatfform i bobl y bröydd rannu eu straeon am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw.

Ochr yn ochr â straeon gan y gymdogaeth leol rôl Morgan Owen, fel Gohebydd y prosiect, fydd cyfrannu rhai straeon newyddion ‘caled’ i’r gwefannau a rhoi gwedd leol iawn ar straeon cenedlaethol perthnasol.

Mae’r cyn-gyfieithydd llawrydd a’r bardd yn edrych ymlaen at yr her newydd o weithio ar brosiect sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth i’n cymdogaethau. “Roeddwn am wneud swydd sydd â diben cymdeithasol, ac sy’n wahanol bob dydd!” medd Morgan Owen.

“Mae’r cyfryngau digidol yn gallu grymuso cymunedau llai. Maent yn galluogi newyddiaduraeth ddwyffordd, am fod pobl nad ydynt yn “newyddiadurwyr” yn gallu cyfrannu a chyhoeddi deunydd. Mae’n cynnig cyfle gwych i gydbwyso’r dafol, a rhoi llais i ymylon y cyfyngau ‘canolog’.”

Mae’n gweld bwlch ar hyn o bryd am blatfform i newyddion lleol iawn – bwlch y gall gwefannau Bro360 ei lenwi. “Mae angen cymryd newyddion lleol o ddifri, yn enwedig yn yr oes gythryblus sydd ohoni; mae angen mwy o uchelgais a dadansoddi, yn ogystal â’r pethau ysgafnach.”

Ei obaith yw y bydd gwefannau lleol 360 yn ysgogi pobol i feddwl yn feirniadol am yr hyn sy’n digwydd o’u cwmpas, a “dangos iddynt fod modd iddyn nhw gyfrannu at y drafodaeth gyhoeddus mewn modd gweithredol”.

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu yn Golwg ac ar golwg360.

Yr Eglwys yng Nghymru

Cyfarwyddwr Astudiaethau Caplaniaeth

Dyddiad cau: Mai 10
Ombwdsmon Cymru

Swyddog Arweiniol Data

Dyddiad cau: Mai 10
Golwg Cyf 

Swyddog Prosiect Ymbweru Bro  (ardal Wrecsam) 

Dyddiad cau: Mai 13
Menter a Busnes

Crëwr Cynnwys Digidol

Dyddiad cau: Mai 7
Llywodraeth Cymru

Aelodau Cyngor Celfyddydau Cymru

Dyddiad cau: Ebrill 26
Prifysgol Bangor

Tiwtor Cymraeg ar gyfer y Gweithlu Addysg

Dyddiad cau: Mai 7
Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

Rheolwr Aelodaeth

Dyddiad cau: Mai 3
Tinopolis

Peiriannydd

Dyddiad cau: Mai 6
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Seicolegydd Addysg Cyfrwng Cymraeg

Dyddiad cau: Mai 8
Undeb Bedyddwyr Cymru

Cydlynydd Corfforaeth Undeb Bedyddwyr Cymru

Dyddiad cau: Ebrill 29

Cylchlythyr