Jest y Job i Gwennan Haf Campbell

Gwennan Haf Campbell o Gelli Aur ger Llandeilo yw un o Newyddiadurwyr dan Hyfforddiant newydd ITV Cymru.

Beth fuoch chi’n ei astudio cyn cael y swydd yma?
Nes i astudio Hanes Modern a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd

Beth oedd wedi eich denu at y swydd?

Ma wastad diddordeb wedi bod gyda fi yn y maes newyddiaduraeth. Pan weles i bod cyfle’n codi i gael hyfforddiant newyddiadurol gan adran hynod brofiadol yn ITV a chael y cyfle i greu cynnwys materion cyfoes a gwleidyddol ar gyfer Hansh, o’n ni’n meddwl byddwn i’n ffŵl i beidio trio am y swydd.

Pwy ydych chi’n ei edmygu?
Yn broffesiynol, Laura Kuenssburg ac Emily Maitlis fi’n meddwl. Ma nhw jyst mor wych ac yn fodelau rôl ar gyfer menywod sy’n dechrau eu gyrfa yn y maes newyddiaduraeth. Ond ar lefel bersonol, ma cymaint o deulu a ffrindiau dw i’n edmygu’n fawr ac yn edrych lan atyn nhw – nhw sydd wedi cael y dylanwad mwya arna i o bell ffordd!

Te neu goffi?
Te bob tro! (A lot gormod ohono fe!)

Llyfr nodiadau neu sgrîn?
Www fi’n itha traddodiadol felna – fi’n lico cael llyfr nodiadau yn fy llaw.

Sut ydych chi’n treulio eich amser y tu allan i’r gwaith?
Cymdeithasu gyda ffrindiau ac yfed jin!

Beth yw’r tip gorau i chi ei gael cyn dechrau’r swydd?
Y tip gorau fi’n meddwl ges i oedd peidio bod ofn mentro ac i fod yn fi fy hunan wastad.

Pwy fyddech chi’n mwynhau cael cyfweld?
Michelle Obama, achos ma hi jyst yn ymeising! #girlpower (Mich – os ti’n darllen hwn, fi’n ffan mawr!) A hefyd Piers Morgan fi’n meddwl – mai e wastad yn joio ‘grilo’ pobl eraill felly fyddwn i’n joio neud yr un peth iddo fe!

Byw i weithio neu gweithio i fyw?
Balans o’r ddau fi’n credu! Fi’n dwlu ar y swydd ond fi’n dwlu treulio amser gyda theulu a ffrindiau hefyd.

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar golwg360.

Llywodraeth Cymru

Aelodau

Dyddiad cau: Mehefin 6
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Swyddog Iaith Gymraeg

Dyddiad cau: Mehefin 3
Cadw

Ceidwad Cadw (Gogledd Cymru)

Dyddiad cau: Mai 29
Cadw

Ceidwad Cadw (De Cymru)

Dyddiad cau: Mai 29
Senedd Cymru

Rheolwr Gwybodaeth i’r Cyhoedd

Dyddiad cau: Mai 28
Menter a Busnes

Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata Menter a Busnes

Dyddiad cau: Mehefin 5
Menter a Busnes

Pennaeth Technoleg, Newid ac Arloesi Menter a Busnes

Dyddiad cau: Mehefin 5
Menter a Busnes

Pennaeth Datblygu Masnachol Menter a Busnes

Dyddiad cau: Mehefin 5
Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

Rheolwr Gweinyddol

Dyddiad cau: Mai 31
Cyngor Sir Gâr

Cyfarwyddwr Addysg, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Dyddiad cau: Mai 31

Cylchlythyr