Penodi Bedwyr ab Ion i ddatblygu therapïau

Bedwyr ab Ion sydd am “chwarae rhan fach yn y darlun mawr” wrth ddatblygu therapïau

Mae Bedwyr ab Ion newydd ddechrau ar ei Ysgoloriaeth Ymchwil gyda Phrifysgol Caerdydd, lle bydd yn ymchwilio i ddatblygu therapïau’n ymwneud â chlefydau prion.

Mae’n gyfle i Bedwyr ddychwelyd i’w ddinas enedigol, wedi iddo dreulio’r blynyddoedd diwethaf yn astudio am radd Meistr mewn Cemeg ym Mhrifysgol Rhydychen.

O’i gymharu â’i radd yn Rhydychen, mae’r gwaith hwn yn ymwneud mwy ag ymchwil meddyginiaethol, a’i obaith yw chwarae rhan fach yn y darlun mwy o ddatblygu ymchwil a therapïau ym maes clefydau prion.

Teulu o glefydau sy’n deillio o brotinau’n camblygu yw clefydau prion, ac maent yn achosi amrywiol broblemau yn y corff. Y clefyd prion mwyaf adnabyddus i ni, mae’n siŵr, yw clefyd y gwartheg gwallgof.

Mae Bedwyr o’r farn bod llawer o anwybodaeth am y maes, yn enwedig gan fod y clefydau’n eithaf prin. Ond mae’r gwaith y mae’n ei wneud yn bwysig – mae effeithiau’r clefydau yma wastad yn angheuol, ac mae’r symptomau’n arwain at farwolaeth cyn pen blwyddyn. Does dim therapïau ar gael ar hyn o bryd, a gobaith Bedwyr yw darganfod therapïau fel bod modd, yn y pen draw, dod o hyd i driniaeth.

Mae Bedwyr yn hynod ddiolchgar bod y cyfle hwn ar gael iddo’n Gymraeg. Bu’n astudio trwy gyfrwng y Saesneg am y pedair blynedd diwethaf, ond cyn hynny cafodd ei addysg wyddoniaeth i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae o’r farn bod angen i’r cyfleoedd yma fod ar gael yn Gymraeg ym myd gwyddoniaeth, achos mae’n dangos bod mwy i’r Gymraeg na jest y celfyddydau.

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar golwg360.

Tinopolis

Cynhyrchydd (Dwy swydd)

Dyddiad cau: Mai 13
Prifysgol Bangor

Cyfathrebwr Estyn Allan STEM (40% CALl)

Dyddiad cau: Mai 13
Ofcom Cymru

Cynorthwyydd Materion Rheoleiddiol Ofcom Cymru

Dyddiad cau: Mai 3
Yr Eglwys yng Nghymru

Cyfarwyddwr Astudiaethau Caplaniaeth

Dyddiad cau: Mai 10
Ombwdsmon Cymru

Swyddog Arweiniol Data

Dyddiad cau: Mai 10
Golwg Cyf 

Swyddog Prosiect Ymbweru Bro  (ardal Wrecsam) 

Dyddiad cau: Mai 13
Menter a Busnes

Crëwr Cynnwys Digidol

Dyddiad cau: Mai 7
Llywodraeth Cymru

Aelodau Cyngor Celfyddydau Cymru

Dyddiad cau: Ebrill 26
Prifysgol Bangor

Tiwtor Cymraeg ar gyfer y Gweithlu Addysg

Dyddiad cau: Mai 7

Cylchlythyr