Catherine John, o Ben-y-Bont yw Swyddog y Gymraeg newydd y Mudiad Meithrin yng Nghaerffili.

Pam wnaethoch chi benderfynu ymgeisio am y swydd yma?
Rhan fawr o’r swydd yw annog rhieni i ddanfon eu plant i ysgolion Cymraeg yn y dyfodol.  Ar ôl dysgu Cymraeg trwy lwybr ail iaith, teimlaf fy mod yn deall unrhyw bryderon a allai godi gan rieni di Gymraeg. Hefyd, mae’r cyfle o gael  gweithio gyda rheini a’u plant yn rhywbeth oedd yn apelio ataf yn syth.

Rhowch syniad i ni o ddiwrnod arferol yn eich swydd.
Rydw i’n cynnal sesiynau tylino babi, ioga babi a stori, arwyddo a chân ar draws sir Caerffili i fabis a phlant cyn ysgol, gan hefyd ymweld â chlinigau cyn geni yn yr Ysbyty lleol i ddenu mwy o rieni draw i’r sesiynau. Yn y sesiynau, byddaf yn rhoi gwybodaeth am addysg Gymraeg, gan sôn am y buddion a ddaw yn ei sgil.

Beth yw’r her fwyaf yn y swydd newydd?
Yn fy marn i, yr her fwyaf yw annog rhieni i ystyried addysg Gymraeg i’w plant, dwi’n ymwybodol ei fod yn benderfyniad mawr i nifer o rieni newydd.

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn y swydd yma?
Roeddwn i’n astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Graddiais ym mis Gorffennaf gyda 2:1 ar ôl tair blynedd anhygoel. Er fy mod yn dod  o gefndir di-Gymraeg ac wedi mynd i ysgol gyfrwng Saesneg roeddwn yn teimlo ei fod yn bwysig i siarad Cymraeg yng Nghymru heddiw, ac roedd y gefnogaeth gan fy narlithwyr yn wych.   Dwi mor falch fy mod wedi gwneud y penderfyniad i ddysgu Cymraeg gan fy mod wedi datblygu fel person a dysgu cymaint dros y blynyddoedd diwethaf.

Sut ydych chi’n treulio eich amser y tu allan i’r gwaith?
Mae fy nghariad a fi yn mwynhau mynd i wylio Cymru yn chwarae pêl-droed, ers yn ifanc roedd fy rhieni yn mynd â fi a fy chwaer i weld Caerdydd bob penwythnos.

Sut ydych chi’n cadw’n heini?
Dw i newydd ymuno â chlwb rhedeg lleol!

Pa wahaniaeth hoffech chi ei wneud yn eich swydd?

Mae’n gyfnod arbennig ym mywydau’r plant a’r rhieni rydw i’n gweithio gyda, ac rydw i’n gobeithio gallu eu helpu gymaint â sy’n bosib. Ynghyd â hyn, gobeithio bydd modd cael effaith ar faint o bobl sy’n siarad Cymraeg yng Nghaerffili, gan gyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Prifysgol Bangor

Cyfathrebwr Estyn Allan STEM (40% CALl)

Dyddiad cau: Mai 13
Ofcom Cymru

Cynorthwyydd Materion Rheoleiddiol Ofcom Cymru

Dyddiad cau: Mai 3
Yr Eglwys yng Nghymru

Cyfarwyddwr Astudiaethau Caplaniaeth

Dyddiad cau: Mai 10
Ombwdsmon Cymru

Swyddog Arweiniol Data

Dyddiad cau: Mai 10
Golwg Cyf 

Swyddog Prosiect Ymbweru Bro  (ardal Wrecsam) 

Dyddiad cau: Mai 13
Menter a Busnes

Crëwr Cynnwys Digidol

Dyddiad cau: Mai 7
Llywodraeth Cymru

Aelodau Cyngor Celfyddydau Cymru

Dyddiad cau: Ebrill 26
Prifysgol Bangor

Tiwtor Cymraeg ar gyfer y Gweithlu Addysg

Dyddiad cau: Mai 7
Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

Rheolwr Aelodaeth

Dyddiad cau: Mai 3

Cylchlythyr