Pwy ’di pwy – Llion Roberts

Cyfle i ddod i adnabod Pennaeth Masnachol cwmni Golwg ychydig yn well

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae dwy swydd newydd wedi’u llenwi gan Golwg dros y misoedd diwethaf, a dyma gyfle i ddod i adnabod ein Pennaeth Masnachol ychydig yn well…

Enw a swydd:

Llion Roberts, Pennaeth Masnachol

Un o ble wyt ti?

Bachgen o Lanuwchllyn de wa!

Beth ti’n hoffi ei wneud yn dy amser rhydd?

Dwi’n hoff o edrych ar bob math o bêl-droed. Dwi’n hoff iawn o edrych ar yr hogie yn chwarae a hefyd yn dilyn y clwb lleol a Lerpwl. Diddordeb arall sydd gen i ydi darllen… am bêl-droed rhan amlaf.

Mae sôn dy fod di’n dipyn o bêl-droediwr! Ti’n dal i chwarae?

Ma rhywun wedi bod yn dweud clwyddau yn rhywle! Na, dwi ddim yn dal i chwarae rwan, henaint wedi dal fyny ma gen i ofn.

Beth yw dy rôl newydd gyda Golwg?

Y rôl newydd yw Pennaeth Masnachol. Byddaf yn gyfrifol am greu a datblygu strategaethau masnachol a gwerthu cynnwys a gwasanaethau’r cwmni a’u rhoi ar waith er mwyn cynyddu’r incwm.

Ble o’t ti’n gweithio cynt?

Gyda’r cwmni trelars Ifor Williams, fel aelod o’r tîm gwerthu.

Beth yw’r gyfrinach i werthu trelar?

Dwi’m yn meddwl bo cyfrinach, ond yn fy marn i ma hi’n bwysig bo rhywun yn onest hefo’r cwsmer ac yn barod i wrando fel eu bônt yn gallu ymddiried ynddof.

Beth wyt ti’n fwya balch o yn ystod dy yrfa hyd yn hyn?

Dwi’n meddwl mai medru sefydlu gwerthwr trelars newydd yn Sweden sydd yn rhoi fwyaf o falchder ifi. Roedd y cwmni angen gwerthwr newydd yn y wlad gan nad oedd y gwerthwr cynt yn gwerthu digon. Fues drosodd yn Sweden gwpwl o weithiau yn cwrdd â darpar werthwyr cyn dod i benderfyniad ar pwy oedd am gael ei sefydlu. Mae’r gwerthwr newydd hyn yn gwerthu cannoedd o drelars y flwyddyn erbyn hyn.

Beth ti’n edrych mlaen i’w neud yn dy swydd newydd?

Dwi’n edrych ymlaen at ymgymryd â’r her newydd a chyfarfod â phobol ar draws Cymru.

Llywodraeth Cymru

Aelodau

Dyddiad cau: Mehefin 6
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Swyddog Iaith Gymraeg

Dyddiad cau: Mehefin 3
Cadw

Ceidwad Cadw (Gogledd Cymru)

Dyddiad cau: Mai 29
Cadw

Ceidwad Cadw (De Cymru)

Dyddiad cau: Mai 29
Senedd Cymru

Rheolwr Gwybodaeth i’r Cyhoedd

Dyddiad cau: Mai 28
Menter a Busnes

Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata Menter a Busnes

Dyddiad cau: Mehefin 5
Menter a Busnes

Pennaeth Technoleg, Newid ac Arloesi Menter a Busnes

Dyddiad cau: Mehefin 5
Menter a Busnes

Pennaeth Datblygu Masnachol Menter a Busnes

Dyddiad cau: Mehefin 5
Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

Rheolwr Gweinyddol

Dyddiad cau: Mai 31
Cyngor Sir Gâr

Cyfarwyddwr Addysg, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Dyddiad cau: Mai 31

Cylchlythyr