Cyngor Sir Ceredigion

Is Arweinydd De Cymru E-sgol

Dyddiad cau: 10 Hydref 2024

Dyddiad Cau: 10/10/2024

Cyfeirnod: REQ105613

37 awr / Parhaol

£40,540 *

Hybrid

*Mae’r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

 

Ynglŷn â’r rôl

Mae prosiect e-sgol wedi bod yn rhedeg ers Medi 2018, gyda’r bwriad arloesol o gefnogi ysgolion i gydweithio ar fodel hybrid o addysgu i ehangu’r ddarpariaeth sydd ar gael i ddisgyblion ôl-14. Tros y blynyddoedd diwethaf, mae’r prosiect cyffrous hwn wedi ehangu i bob ardal o Gymru ac yn cydweithio bellach gyda nifer o ysgolion ledled y wlad.

Bydd Is Arweinydd e-sgol De Cymru yn gyswllt angenrheidiol i ysgolion De Cymru ac yn cynnig hyfforddiant a chymorth i’r athrawon a’u dysgwyr. Byddent yn gweithio’n agos gydag Arweinydd De Cymru e-sgol i sicrhau seilwaith gadarn i’r prosiect. Hefyd, byddant yn cydweithio gydag Arweinwyr e-sgol i edrych am gyfleoedd newydd ac arloesol i ehangu darpariaeth e-sgol ymhellach.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

  • angerddol dros addysgu digidol
  • meddu ar brofiad arwain yn y sector addysg
  • meddu ar sgiliau TGCh rhagorol
  • meddu ar brofiad o ddarparu hyfforddiant i gynulleidfaoedd amrywiol
  • ymroddedig i sicrhau fod pob disgybl yn cyrraedd eu potensial

Bydd y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:

  • Gweithio Hybrid:Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o’ch cartref neu mewn swyddfa.
  • Amser-fflecsi:Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Enw’r cwmni neu sefydliad
Cyngor Sir Ceredigion
Math o swydd
Llawn amser
Dyddiad cau i ymgeiswyr
10 Hydref 2024
Rhagor o wybodaeth
NHS

Swyddog Datblygu Gyrfa

Dyddiad cau: Medi 26
NHS

Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Dyddiad cau: Hydref 6
Tinopolis- Caernarfon

Ymchwilydd

Dyddiad cau: Medi 27
Cyngor Sir Ceredigion

Is Arweinydd De Cymru E-sgol

Dyddiad cau: Hydref 10
Prifysgol Caerdydd

Tiwtoriaid yn y Gyfraith (Cyfrwng Cymraeg)

Dyddiad cau: Medi 24
S4C

Prif Weithredwr

Dyddiad cau: Medi 30
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Swyddog Cefnogi Prosiectau

Dyddiad cau: Medi 17

Cylchlythyr