Dyddiad cau: 23.59 25 Medi 2024
Cyflog: £35,159 – £42,634 – (Band Rheoli 2 – HEO) ynghyd â lwfans recriwtio a chadw (£3899.66). Pro rata.
Mae hon yn adeg gyffrous i weithio wrth galon democratiaeth Cymru yng Nghyfarwyddiaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu’r Senedd.
Mae Cofnod y Trafodion yn wasanaeth hanfodol er mwyn galluogi’r Senedd i gyflawni ei huchelgais o fod yn sefydliad agored a thryloyw, a sicrhau bod modd i bobl Cymru, gwleidyddion a newyddiadurwyr ddilyn a darllen trafodaethau’r Senedd yn yr amryfal bwyllgorau a’r Cyfarfodydd Llawn.Mae tîm y Cofnod yn rhan o’r Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi sy’n hanfodol er mwyn galluogi’r Senedd i fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog drwy hwyluso’r defnydd o’r ddwy iaith swyddogol.Mae’r swydd hon yn un cyffrous a bydd yn eich rhoi yng nghanol bwrlwm gwleidyddiaeth Cymru. Byddwch yn golygu trawsgrifiadau o gyfarfodydd y Senedd i’w cyhoeddi ar y we at ddefnydd staff y Comisiwn, Aelodau o’r Senedd a’u staff a’r cyhoedd yn ystod cyfnod hynod ddiddorol yn hanes democratiaeth Cymru. Bydd disgwyl ichi feddu ar sgiliau ieithyddol cryf yn y Gymraeg a’r Saesneg a bydd angen i chi ddatblygu perthynas waith gref gyda’ch cydweithwyr o fewn y gwasanaeth hwn a gwasanaethau eraill.I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r swydd-ddisgrifiad.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Senedd Cymru
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 25 Medi 2024