Rhif y swydd: 18987BR
Tiwtoriaid yn y Gyfraith (Cyfrwng Cymraeg) (LLB) (rhan-amser) – Dysgu ac Ysgolheictod Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn ganolfan ymchwil sy’n arwain y byd. Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddaraf, daeth yr Ysgol yn 15fed yn y DU ar sail cyfartaledd pwynt gradd yn yr Uned Asesu ar gyfer y Gyfraith. Daeth yn bumed ar gyfer ei hamgylchedd ymchwil ac yn chweched ar gyfer effaith ei hymchwil. Mae’r perfformiad cryf hwn yn adlewyrchu ansawdd y cydweithredu rhyngwladol sy’n digwydd a’r cysylltiadau cryf â’r gymdeithas sifig a byd polisi sydd wrth wraidd ymchwil yr Ysgol.
Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn Ysgol Academaidd fawr a chyfeillgar sy’n denu myfyrwyr o’r radd flaenaf o’r DU a gwledydd tramor. Mae ganddi gynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu ei chwricwlwm ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, yn ogystal ag ehangu ei rhaglen Pro Bono hynod lwyddiannus. Yr Ysgol yw’r unig un yng Ngrŵp Russell sy’n cynnig yr ystod lawn o gymwysterau israddedig, ôl-raddedig a phroffesiynol ym maes y Gyfraith.
Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn dymuno penodi tiwtoriaid cymwys a/neu brofiadol a fydd yn cael eu talu fesul awr i gyfrannu at y gwaith o addysgu a gweinyddu modiwlau allweddol ei chwrs LLB. Mae’r Ysgol yn chwilio am diwtoriaid sy’n gallu addysgu ar fodiwlau Cymraeg gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: Cyfraith Tir, Cyfraith Camweddau, Sylfeini Cyfreithiol, Cyfraith Contractau, Cyfraith Trosedd, Cyfraith Gyhoeddus, Ecwiti ac Ymddiriedolaethau, Cyfraith yr UE.
Dyma gontractau oriau amrywiol sy’n talu fesul awr, a fydd ar gael o 1 Medi 2024. Byddai’r amser cyswllt ar gyfer pob pwnc a addysgir fel arfer rhwng dwy a phedair awr bob wythnos, neu fel y cytunwyd arno.
Cyflog: £32,332 i £34,980 y flwyddyn, yn ôl nifer yr oriau (Gradd 5)
Dyddiad hysbysebu: Dydd Mawrth, 10 Medi 2024
Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 24 Medi 2024
Sylwer bod Prifysgol Caerdydd yn cadw’r hawl i roi’r gorau i hysbysebu’r swydd hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio’n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Prifysgol Caerdydd
- Math o swydd
- Rhan amser
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 24 Medi 2024