NHS

Swyddog Cymorth Gweithrediadau Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol

Dyddiad cau: 19 Medi 2024

NHS Wales Shared Services Partnership

Y dyddiad cau yw 19 September 2024

Gwneud cais ar gyfer y swydd hon

Crynodeb o’r swydd

Mae Gwasanaeth Archwilio Meddygol Cymru Gyfan yn rhan o weithrediad cenedlaethol y system Archwilio Meddygol yng Nghymru a Lloegr.Mae Archwilwyr Meddygol yn craffu’n annibynnol ar farwolaethau i ganfod achos cywir y farwolaeth a nodi achosion lle mae angen ymchwilio ymhellach i amgylchiadau’r farwolaeth honno.  Cânt eu cefnogi gan Swyddogion Archwilio Meddygol sy’n adolygu ac yn dadansoddi gwybodaeth yn ymwneud ag amgylchiadau marwolaeth a’r gofal a ddarperir. Cânt eu rheoli gan Uwch Swyddogion Archwilio Meddygol, sef yr arweinwyr gweithredol a gweithredu ar gyfer pob ardal. Bydd Swyddog Cymorth Gweithrediadau’r Gwasanaeth Archwilio Meddygol yn cefnogi’r rolau hyn drwy ddarparu cymorth gweinyddol a chysylltu â rhanddeiliaid megis Byrddau Iechyd, Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Crwner i ddarparu gwybodaeth berthnasol a phwysig. Bydd yn gyfrifol am ymdrin â cheisiadau am wybodaeth gan sefydliadau megis Cyrff Iechyd, Crwneriaid, Cofrestryddion a’r rhai sydd mewn profedigaeth, a’i darparu iddynt.Darparu cymorth ysgrifenyddol, trefniadol a gweinyddol effeithlon ac effeithiol i Uwch Swyddog Archwilio Meddygol y Gwasanaeth Archwilio Meddygol a thîm y Gwasanaeth Archwilio Meddygol. Darparu gwybodaeth i berthnasau cleifion sydd wedi marw, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a’r Crwner a’r Gwasanaethau Cofrestru mewn perthynas ag ymholiadau gweithredol.

Prif ddyletswyddau’r swydd

 

Darparu cymorth ysgrifenyddol, trefniadol a gweinyddol effeithlon ac effeithiol i Uwch Swyddog Archwilio Meddygol y Gwasanaeth Archwilio Meddygol a thîm y Gwasanaeth Archwilio Meddygol. Y gallu i flaenoriaethu gwaith ac ymdrin â gofynion ac ymyriadau sy’n cystadlu. Rheoli tasgau o ddydd i ddydd a gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw ymholiadau gan randdeiliaid a sefydliadau perthnasol eraill, a chymryd negeseuon manwl a chywir gan sicrhau bod materion yn cael eu trin mewn modd priodol a chyfrinachol. Trefnu, dosbarthu ac ymdrin â phob gohebiaeth, gan gynnwys ffeilio electronig fel y bo’n briodol. Bod yn gyfrifol am ymdrin â cheisiadau am wybodaeth gan sefydliadau megis Cyrff Iechyd, Crwneriaid, Cofrestryddion a’r rhai sydd mewn profedigaeth. Datrys problemau sy’n cael eu dirprwyo yn rhesymegol a gwneud penderfyniadau sy’n briodol i lefel y swydd. Cynorthwyo’r gwasanaeth i baratoi a chydlynu archwiliadau a dosbarthu adroddiadau ar draws y gwasanaeth.

Helpu i gydlynu’r gwaith cynllunio a rheoli lleoliadau a digwyddiadau ar gyfer digwyddiadau, cyfarfodydd a chynadleddau a drefnir gan y Gwasanaeth Archwilio Meddygol ac felly mae gofyniad achlysurol i deithio i leoliadau eraill yng Nghymru.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Enw’r cwmni neu sefydliad
NHS
Math o swydd
Llawn amser
Dyddiad cau i ymgeiswyr
19 Medi 2024
Rhagor o wybodaeth
NHS

Swyddog Datblygu Gyrfa

Dyddiad cau: Medi 26
NHS

Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Dyddiad cau: Hydref 6
Tinopolis- Caernarfon

Ymchwilydd

Dyddiad cau: Medi 27
Cyngor Sir Ceredigion

Is Arweinydd De Cymru E-sgol

Dyddiad cau: Hydref 10
Prifysgol Caerdydd

Tiwtoriaid yn y Gyfraith (Cyfrwng Cymraeg)

Dyddiad cau: Medi 24
S4C

Prif Weithredwr

Dyddiad cau: Medi 30
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Swyddog Cefnogi Prosiectau

Dyddiad cau: Medi 17

Cylchlythyr