Tinopolis – Caernarfon
Mae swydd ymchwilydd yn gam cyntaf a phwysig o fewn y gadwyn cynhyrchu cynnwys . Dyma swydd gyffrous sy’n gyflwyniad i’r broses gynhyrchu aml-blatfform ac yn sylfaen dda ar gyfer unrhyw un sydd ag uchelgais i ddatblygu gyrfa yn y maes.
Fel aelod o dîm o ymchwilwyr, fe fyddwch yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau i ddod o hyd i eitemau aml blatform ar gyfer Prynhawn Da a Heno. Yn dilyn cymeradwyaeth gan y Tîm Cynhyrchu, fe fyddwch yn gyfrifol am drefnu lleoliad, cyfranwyr, criw ffilmio a llunio nodiadau ar gyfer y cyflwynydd/gohebydd ynghyd ag unrhyw fater arall sydd angen ei drefnu. Swyddfeydd Tinopolis yn Galeri, Caernarfon yw’r prif weithle ond fe fydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i deithio ar hyd a lled y Gogledd i ymchwilio a ffilmio cynnwys.
Mae Prynhawn Da a Heno yn raglenni byw dyddiol, felly byddwch yn gweithio dan bwysedd amser yn aml er mwyn sicrhau fod eitemau’n cyrraedd y sgrin deledu a llwyfannau eraill mewn pryd. Mae Heno yn darlledu’n fyw o 7:00yh tan 7:30yh ac mae disgwyl i un ymchwilydd weithio tan ddiwedd y darllediad bob nos. Ar adegau gall eitemau hwyr olygu fod angen gweithio hyd at amser darlledu’r rhaglen.
Ymhen amser gall fod cyfle i ymddangos ar sgrin fel cyfrannwr neu ohebydd, neu efallai weithio gyda golygydd er mwyn paratoi eitem – ond eich prif waith fydd dod o hyd i eitemau ar gyfer y rhaglenni.
Mae Tinopolis hefyd yn cynhyrchu nifer o raglenni eraill e.e Pawb a’i Farn, Sgwrs dan y Lloer, Carol yr Ŵyl, ac o dro i dro fe fyddwch hefyd yn ymuno â thimoedd y rhaglenni hyn.
Lleoliad: Tinopolis, Galeri Caernarfon, Doc Victoria, Caernarfon, LL55 1SQ
Cyflog: yn ddibynnol ar brofiad
Dyddiad Cau: 27aiⁿ o Fedi 2024
Manylion pellach
Oriau Gwaith: Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos ond oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys, penwythnosau a gwyliau banc.
Gwyliau: Yn ychwanegol i’r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn, bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau: Dylid anfon ceisiadau mewn ffurf llythyr cais a CV erbyn 12:00 y prynhawn ar ddydd Gwener 27aiⁿ o Fedi 2024 at swyddi@tinopolis.com neu Swyddi, Tinopolis, Galeri Caernarfon, Doc Victoria, Caernarfon, LL55 1SQ.
Yn unol â gofynion Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU. Bydd yn ofynnol cael tystiolaeth ddogfennol o gymhwyster gan ymgeiswyr fel rhan o’r broses recriwtio.
Gwybodaeth bersonol a gasglwn amdanoch chi pan fyddwch yn ymgeisio am swydd yn Tinopolis:Wrth wneud cais am swydd, bydd disgwyl i chi ddarparu CV fel rhan o’r broses. Byddwn yn cadw copi o’ch CV ar ffeil am gyfnod o dair blynedd. Pe bai swydd debyg yn codi yn y cyfnod hwn, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth er mwyn cysylltu â chi. Gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol o’n ffeiliau ar unrhyw adeg. Am ragor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, gweler
http://www.tinopolis.com/privacy-notice/
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Tinopolis- Caernarfon
- Math o swydd
- Llawn amser
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 27 Medi 2024