Llyr James

Cyfrifydd Cymwysedig Neu Rannol-Gymwysedig

Dyddiad cau: 28 Hydref 2024

Rydym yn chwilio am berson i ymuno gyda’n tîm brwdfrydig yng Nghaerfyrddin. Mae gennym amryw o gleientiaid dros Gymru gyfan ac ymhellach ac rydym yn cynnig gwasanaeth llawn trwy gyfrwng y Gymraeg.

Rydym yn cynnig hyfforddiant llawn ar bob agwedd o gyfrifeg yn arwain at gymwysterau proffesiynol. I’r rhannol gymwysedig telir holl gostau’r hyfforddiant a ffioedd arholiadau.

Disgrifiad o ddyletswyddau:-

Cyfrifydd Cymwysedig neu Rannol- Gymwysedig

  • Paratoi cyfrifon ar gyfer amryw o fusnesau
  • Cwrdd gyda’n cleientiaid i drafod y cyfrifon a’u cynlluniau
  • Paratoi ffurflenni treth i unigolion, partneriaethau a chwmnïau
  • Bod yn rhan o dîm archwilio
  • Paratoi Ffurflenni TAW
  • Gweithio gyda’n cleientiaid i’w paratoi nhw ar gyfer Troi Treth Yn Ddigidol

Gofynion

  • Yn hapus i siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg
  • Profiad o ddefnyddio Word ac Excel
  • Profiad gyda QuickBooks, Xero neu Sage yn fantais ond ddim yn ofynnol
  • Yn hapus yn gweithio mewn tîm ac ar ben eich hunan
  • Sgiliau cyfathrebu da
  • Prydlondeb
  • Oriau’r swyddfa yw 9-5 o Ddydd Llun i Ddydd Gwener.

 

Mae’r cyflog yn ddibynnol ar brofiad a sgiliau.

 

 

Dyddiad Cau: 28 Hydref 2024 

Danfonwch eich CV at Bethan Vaughan

e-bost: bethanv@llyrjames.co.uk

25 Stryd Y Bont, Caerfyddin, SA31 3JS

Enw’r cwmni neu sefydliad
Llyr James
Dyddiad cau i ymgeiswyr
28 Hydref 2024
Rhagor o wybodaeth
Llyr James

Cyfrifydd Cymwysedig Neu Rannol-Gymwysedig

Dyddiad cau: Hydref 28
Y Gymdeithas Gofal

Cadeirydd y Bwrdd

Dyddiad cau: Hydref 14
Gofal a Thrwsio ym Mhowys

Cadeirydd y Bwrdd

Dyddiad cau: Hydref 14
Cyngor y Gweithlu Addysg

Swyddog Cymorth Corfforaethol

Dyddiad cau: Hydref 22
Senedd Cymru

Swyddog Gwasanaethau Cwsmeriaid (Gogledd Cymru)

Dyddiad cau: Hydref 16
Mentera

Cynorthwyydd Tîm (Y Ganolfan Wasanaeth) (1 FTE)

Dyddiad cau: Hydref 15
Coleg Cymraeg

Penodi Aelod Bwrdd

Dyddiad cau: Hydref 30
Comisiynydd y Gymraeg

Swyddog Llywodraethiant

Dyddiad cau: Hydref 11
Cyngor Gwynedd

Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd

Dyddiad cau: Hydref 10
Cristnogaeth 21

Swyddog Cyfryngau C21

Dyddiad cau: Hydref 18

Cylchlythyr