Swydd: Cadeirydd y Bwrdd
Sefydliad: Gofal a Thrwsio ym Mhowys
Cyflog: Gwirfoddol
Lleoliad: Y Drenewydd
Dyddiad Cau: 14 Hydref 2024
Dyddiad Cyfweliad: 28 Hydref 2024
Crynodeb
Ydych chi: yn angerddol am wella bywydau; ymroddedig i adeiladu cymunedau cryf, gwydn, wedi ymrwymo i alluogi byw’n ddiogel, sicr ac annibynnol?
Byddai Gofal a Thrwsio ym Mhowys wrth ei bodd yn clywed gennych os oes gennych brofiad fel Cadeirydd Bwrdd neu os hoffech datblygu eich sgiliau Bwrdd ymhellach.
Disgrifiad Swydd
Byddai Gofal a Thrwsio ym Mhowys wrth ei bodd yn clywed gennych os oes gennych brofiad fel Cadeirydd Bwrdd neu os hoffech datblygu eich sgiliau Bwrdd ymhellach.
Mae’r Bwrdd yn gyfrifol am sicrhau llwyddiant Gofal a Thrwsio ym Mhowys: am bennu ei genhadaeth a’i werthoedd; diffinio amcanion strategol a goruchwylio’r gwaith o’u cyflawni; sicrhau bod asedau’r sefydliad a Barcud yn cael eu diogelu, a bod y sefydliad yn parhau’n hyfyw yn ariannol – a’r cyfan yn unol â’r cyfansoddiad, y gyfraith a gofynion rheoleiddiol. Y Cyfarwyddwr Grŵp perthnasol yn Barcud a Thîm Arwain y sefydliad sy’n gyfrifol am reoli’r sefydliad o ddydd i ddydd.
Mae Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn un o is-gwmniau Grŵp Barcud. Mae gan Grŵp Barcud dros 4,000 o gartrefi a throsiant o dros £25 miliwn. Felly, dyma’r gymdeithas dai fwyaf sydd â’i gwreiddiau yng nghymunedau’r canolbarth a’r gorllewin, a dyma’r partner naturiol i’r sawl sydd am ddarparu tai, cyflogaeth a chyfleoedd datblygu ehangach yn y rhanbarth.
Mae Barcud yn fwy na chymdeithas dai; yn ogystal ag adeiladu cartrefi ar gyfer anghenion y dyfodol a darparu gwasanaethau landlord, mae hefyd yn cynnig atebion cynhwysfawr o ran tai, gwasanaethau cynnal a chadw a chymorth, a hynny drwy ei dri is-gwmni; Y Gymdeithas Gofal, Gofal a Thrwsio ym Mhowys a EOM.
Mae cynnwys tenantiaid a phreswylwyr yn ei waith yn elfen gwbl sylfaenol o ffordd Barcud o weithio, ac mae’r Bwrdd yn cynnwys y tenantiaid wrth ddatblygu polisïau a strategaethau. Dyma un o’r ffyrdd niferus y mae Barcud wedi’i wreiddio mewn cymunedau ar draws y canolbarth a’r gorllewin.
Mae Grŵp Barcud wedi ymrwymo i ddatblygu unigolion er mwyn eu galluogi i gyflawni eu potensial. Mae’r ymrwymiad hwn i ddysgu a datblygu’n cynnwys Aelodau Bwrdd, a bydd rhaglen sefydlu gynhwysfawr yn cael ei darparu i’r unigolion llwyddiannus. Bydd Aelodau Bwrdd newydd yn cael cyfle i gael eu mentora gan Aelod Bwrdd presennol a bod yn rhan o’r rhaglen o arfarniadau Aelodau Bwrdd a gyflawnir gan y Cadeirydd.
Mae rhagor o wybodaeth am Gofal a Thrwsio ym Mhowys: https://careandrepair.org.uk/cy/agencies/care-repair-powys/
Mae rhagor o wybodaeth am Grŵp Barcud: www.barcud.cymru
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Gofal a Thrwsio ym Mhowys
- Disgrifiad swydd
- PECYN-RECRIWTIO-GTHRWSIO-B31-1.pdf
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 14 Hydref 2024