S4C

Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant

Dyddiad cau: 12 Medi 2024

Mae gan S4C weithlu anhygoel ac ymroddedig o tua 125 o unigolion wedi eu lleoli yn ein swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac yn gweithio yn hybrid o’u cartrefi.

Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â ni. Yn dilyn cyfnod heriol,  yr ydym am sicrhau ffocws ar ein pwrpas a’n blaenoriaethau strategol. Yn ganolog i lwyddiant hyn bydd sicrhau fod gan S4C amgylchedd gwaith cadarnhaol, cefnogol a chynhwysol, sy’n buddsoddi yn ei gweithlu i ddatblygu sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol er mwyn perfformio’n dda a fydd yn sicrhau arlwy aml blatfform ardderchog ar gyfer ein cynulleidfaoedd.

Fel aelod o’r tîm rheoli, bydd y Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant yn gyfrifol am ddatblygu strategaeth sy’n cyflawni ein dyheadau ar gyfer ein staff, gan ddenu, cadw a datblygu  gweithlu amrywiol a thalentog, a chreu amgylchedd sy’n caniatáu i bawb sy’n gweithio gyda ni deimlo’n ddiogel a bod y gorau y gallent fod.

Mae hon yn rôl sy’n weladwy iawn ar bob lefel, a bydd gofyn i chi feithrin perthnasoedd cryf a dibynadwy ar draws y tîm arweinyddiaeth, ein Bwrdd, ein staff a’u cynrychiolwyr ynghyd â’n partneriaid.

Rydym yn chwilio am arweinydd ysbrydoledig sy’n dod â phrofiad o ddatblygu a gweithredu strategaethau pobl, gyda gwybodaeth gref o ddiwylliant a datblygiad sefydliadol, ymgysylltu gyda’r gweithle yn gadarnhaol, materion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a phrofiad eang o gynghori ar faterion a datblygu Adnoddau Dynol technegol.   Yn wneuthurwr newid sy’n annog y rhai o’u cwmpas i gamu y tu allan i’w parth cysur, bydd gennych ddull hyderus a gwybodus o ymdrin â phopeth sy’n ymwneud â phobl a diwylliant ac ymrwymiad profedig i hyrwyddo tegwch a chynhwysiant yn y gweithle, fel bod pawb yn teimlo eu bod yn gallu bod yn ddilys ac y gorau y gallent fod yn y gwaith.

Mae’r gallu i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig i lefel uwch yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl yma.

 

Manylion eraill

 

Lleoliad:                  

Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac rydym yn gweithredu polisi gweithio’n hybrid. Bydd gofyn ichi fynychu swyddfeydd eraill S4C o bryd i’w gilydd yn unol a gofynion y gwasanaeth

Cyflog:                      

£85,000 – £90,000

Oriau gwaith:

35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

 Cytundeb:

Parhaol

Cyfnod prawf:         

6 mis

Gwyliau:

Yn ychwanegol i’r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn yn cynyddu i 32 diwrnod gyda hyd gwasanaeth.  Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o’r gwyliau.

Pensiwn:

Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%, ond mae modd ichi gyfrannu mwy os dymunwch.

 

Buddion eraill yn cynnwys:

Yswiriant Bywyd

Tal salwch galwedigaethol

Cynllun Seiclo i’r gwaith

Cynllun Cynorthwyo Staff

Buddion tal mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu

 

 Ceisiadau

 Dylid anfon eich CV yn y lle cyntaf at ein partner recriwtio Mera Mann, o gwmni Human Resourcing e-bost: mera.mann@humanresourcing.co.uk,  neu croeso ichi gysylltu gyda Mera am sgwrs.

Dyddiad Cau: Hanner dydd 12 Medi 2024

Byddwn yn edrych i gynnal cyfweliadau ffurfiol yng Nghanolfan yr Egin Caerfyrddin ddiwedd Medi 2024.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth

 Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr amser llawn neu ran-amser, crefydd, safbwynt gwleidyddol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd ar iaith (heblaw lle bo’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd) neu wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroi i weithio gydag amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol.

Mae S4C yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau o bobl sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau.  Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a phenodir ar sail teilyngdod.

Enw’r cwmni neu sefydliad
S4C
Math o swydd
Llawn amser
Ebost
mera.mann@humanresourcing.co.uk
Disgrifiad swydd
Cyfarwyddwr-Pobl-a-Diwylliant13-2.pdf
Dyddiad cau i ymgeiswyr
12 Medi 2024
S4C

Prif Weithredwr

Dyddiad cau: Medi 30
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Swyddog Cefnogi Prosiectau

Dyddiad cau: Medi 17
Severn Wye

Cynghorydd Ynni Cymunedol (Ceredigion)

Dyddiad cau: Medi 26
Prifysgol Wrecsam

Tiwtor Sgiliau Iaith ac Academaidd Cymraeg

Dyddiad cau: Medi 8
Llywodraeth Cymru

Uwch-reolwr Awdurdodau Lleol

Dyddiad cau: Medi 29
Llywodraeth Cymru

Uwch Swyddog Polisi Arweinyddiaeth a’r Gymraeg

Dyddiad cau: Medi 17
Cyllid a Thollau EF

Cyfieithydd

Dyddiad cau: Medi 18
Yr Eglwys yng Nghymru

Cyfarwyddwr Addysg Taleithiol

Dyddiad cau: Medi 13
S4C

Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant

Dyddiad cau: Medi 12

Cylchlythyr