Yr Eglwys yng Nghymru

Cyfarwyddwr Addysg Taleithiol

Dyddiad cau: 30 Medi 2024

Cyfarwyddwr Addysg Taleithiol

G (£50,194 – £56,790) y flwyddyn

Lleoliad – 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd neu Hybrid

Parhaol – Llawn amser (34.75 awr yr wythnos).

Bydd ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn patrymau gwaith amgen yn cael eu hystyried; fodd bynnag, gall anghenion busnes osod cyfyngiadau ar y trefniadau a gynigir.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan yn nyfodol addysg yng Nghymru ar lefel genedlaethol.

Rydym yn chwilio am uwch arweinydd addysg profiadol gyda dealltwriaeth drylwyr o’r amgylchedd polisi addysgol yng Nghymru ac ymrwymiad i gynnal ethos, cymeriad, gweledigaeth a chenhadaeth unigryw ein 144 o ysgolion cynradd ac uwchradd yr Eglwys yng Nghymru.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rheoli dau gynghorydd cenedlaethol arbenigol a bydd yn gyfrifol am arwain ar berthnasoedd a pholisi gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill yn y sector ac am sicrhau bod darpariaeth addysg yr Eglwys yng Nghymru yn parhau i ddatblygu o ran ansawdd ac uchelgais ac yn chwarae rhan lawn, hyderus a chynyddol yn nhirwedd addysgol Cymru.

Mae Cyfarwyddwr Addysg y Dalaith yn rhan o’r tîm Cenhadaeth a Strategaeth, ac mae’n gweithio’n agos gyda Mainc yr Esgobion, gyda rhwydwaith o Swyddogion Addysg Esgobaethol a chydag uwch arweinwyr ysgolion yr Eglwys yng Nghymru, a bydd yn cyfrannu at gyngor polisi a datblygiad gwasanaeth parhaus ar draws ein holl ysgolion, sydd wrth galon cymunedau ledled y wlad.

Mae’r rôl hon yn gofyn am rywfaint o hyblygrwydd o ran oriau gwaith a lleoliad, gan gynnwys rhywfaint o deithio yng Nghymru a thu hwnt, ac aros dros nos yn achlysurol.

Gofyniad Galwedigaethol

Mae Rhan 1 o Atodlen 9 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn berthnasol i’r penodiad hwn. Mae’r swydd hon yn cynnwys gofyniad galwedigaethol i fod yn Gristion mewn gair a gweithred ac, yn ddelfrydol, yn aelod sy’n cymuno yn yr Eglwys yng Nghymru, eglwys mewn cymundeb â hi neu Eglwys Drindodaidd arall.

Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad DBS boddhaol.

Dyddiad cau: Dydd Gwener 13 Medi 2024 am 10:00am

Cysylltwch â: HR@cinw.org.uk / 0292034 8200

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i: https://www.churchinwales.org.uk/cy/about-us/work-us/

 

Enw’r cwmni neu sefydliad
Yr Eglwys yng Nghymru
Math o swydd
Llawn amser
Ffurflen gais
20240819-Application-Form-Eng61.docx
Dyddiad cau i ymgeiswyr
30 Medi 2024
Rhagor o wybodaeth
Tinopolis- Caernarfon

Ymchwilydd

Dyddiad cau: Medi 27
Cyngor Sir Ceredigion

Is Arweinydd De Cymru E-sgol

Dyddiad cau: Hydref 10
Prifysgol Caerdydd

Tiwtoriaid yn y Gyfraith (Cyfrwng Cymraeg)

Dyddiad cau: Medi 24
S4C

Prif Weithredwr

Dyddiad cau: Medi 30
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Swyddog Cefnogi Prosiectau

Dyddiad cau: Medi 17
Severn Wye

Cynghorydd Ynni Cymunedol (Ceredigion)

Dyddiad cau: Medi 26
Llywodraeth Cymru

Uwch-reolwr Awdurdodau Lleol

Dyddiad cau: Medi 29
Llywodraeth Cymru

Uwch Swyddog Polisi Arweinyddiaeth a’r Gymraeg

Dyddiad cau: Medi 17

Cylchlythyr