Llywodraeth Cymru

Uwch-reolwr Awdurdodau Lleol

Dyddiad cau: 29 Medi 2024

Uwch-reolwr Awdurdodau Lleol – Cymraeg yn Hanfodol – Parhaol

Cyflog: Grade 7 – £56,112 – £67,095

 

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn chwilio am Uwch-reolwr ar gyfer Arolygu Awdurdodau Lleol.  Mae Arolygu Awdurdodau Lleol yn swyddogaeth allweddol wrth sicrhau y darperir gwasanaethau gofal cymdeithasol diogel o ansawdd uchel i ddinasyddion Cymru.  Mae rôl Uwch-reolwr yn hanfodol wrth roi sicrwydd ac ysgogi gwelliant o ran ansawdd gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Lleoliad

Cymru Gyfan, ond bydd y swydd wedi’i lleoli yn un o brif swyddfeydd AGC, sydd ym Merthyr Tudful, Caerfyrddin neu Gyffordd Llandudno. Disgwylir i gydweithwyr weithio o gyfuniad o leoliadau, gan gynnwys rhywfaint o amser yn gweithio gartref, fel sy’n ofynnol. Y lleoliad swyddfa y cytunir arno fydd y man gwaith dynodedig ac nid yw unrhyw drefniant gweithio o bell neu gartref yn golygu newid i’ch man gwaith dynodedig na’ch telerau ac amodau cytundebol.

Mae’r swydd hon yn golygu ymgymryd â gweithgarwch craffu, adolygu ac arolygu ledled Cymru ac felly bydd angen teithio ac aros dros nos ar adegau yn ogystal â gweithio oriau anghymdeithasol o bryd i’w gilydd.

 Cymwysterau

Yn ddelfrydol, dylid meddu ar gymhwyster gofal cymdeithasol/addysg cydnabyddedig ynghyd â phrofiad perthnasol. Fodd bynnag, derbynnir ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n gymwys ar lefel gradd neu uwch (mewn unrhyw bwnc) sydd â phrofiad sylweddol o ddiogelu a/neu wella canlyniadau i bobl mewn cyd-destun iechyd neu ofal cymdeithasol.

Mae enghreifftiau o gymwysterau gofal cymdeithasol/addysg derbyniol yn cynnwys y canlynol (ymhlith eraill):

·      Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol (neu gymhwyster Gofal Cymdeithasol Cymru cyfatebol),

·      cymhwyster nyrsio neu gymhwyster sy’n gysylltiedig â gofal iechyd,

·      cymhwyster addysgu neu addysg,

·      gradd mewn Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar/Plentyndod

·      Diploma Lefel 5 mewn Arwain Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol neu mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant

Cyflog

Gellir ystyried cyflog cychwynnol hyd at bwynt 3 (£62,454) i ymgeiswyr sy’n dangos y sgiliau, y wybodaeth a’r profiad hanfodol i lefel eithriadol mewn cyfweliad. Nid ystyrir cyflog presennol.

Manteision

Telir Lwfans Defnyddwyr Gofal Hanfodol o £1,000 y flwyddyn mewn cyfandaliad i Arolygwyr sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd (cwblhau o leiaf o 2,000 o filltiroedd statudol bob blwyddyn ariannol).

 

Gweithio hybrid a hyblyg.

 

Dyddiad Cau:

16:00pm ar 26/09/2024

 

*Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon

Enw’r cwmni neu sefydliad
Llywodraeth Cymru
Math o swydd
Llawn amser
Dyddiad cau i ymgeiswyr
29 Medi 2024
Rhagor o wybodaeth
Tinopolis- Caernarfon

Ymchwilydd

Dyddiad cau: Medi 27
Cyngor Sir Ceredigion

Is Arweinydd De Cymru E-sgol

Dyddiad cau: Hydref 10
Prifysgol Caerdydd

Tiwtoriaid yn y Gyfraith (Cyfrwng Cymraeg)

Dyddiad cau: Medi 24
S4C

Prif Weithredwr

Dyddiad cau: Medi 30
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Swyddog Cefnogi Prosiectau

Dyddiad cau: Medi 17
Severn Wye

Cynghorydd Ynni Cymunedol (Ceredigion)

Dyddiad cau: Medi 26
Llywodraeth Cymru

Uwch-reolwr Awdurdodau Lleol

Dyddiad cau: Medi 29
Llywodraeth Cymru

Uwch Swyddog Polisi Arweinyddiaeth a’r Gymraeg

Dyddiad cau: Medi 17

Cylchlythyr