Severn Wye

Cynghorydd Ynni Cymunedol (Ceredigion)

Dyddiad cau: 26 Medi 2024

Mae Severn Wye yn chwilio am unigolyn gofalgar, hyderus i helpu pobl sy’n wynebu tlodi tanwydd a hyrwyddo effeithlonrwydd ynni.

Mae’r swydd hon ym mlaen yr hyn a wnawn fel sefydliad. Byddwch yn gweithio ledled Ceredigion, gan ymweld â phobl yn eu cartrefi eu hunain ac yn rhoi cyngor yn achlysuron cymunedol.

Mae hon yn swydd gartref, ond gyda chryn deithio o gwmpas yr ardal, Gall fod yn llawn amser neu’n rhan amser.

A chi’n Gynghorwr Ynni Cymunedol, byddwch yn canolbwyntio ar helpu ac addysgu unigolion a theuluoedd sy’n wynebu rhwystrau rhag cael gwasanaethau ynni, ac a allent fod mewn tlodi tanwydd. Byddwch yn gweithio â phobl yn eu cartrefi neu yn eu cynghori mewn achlysuron yn eu cymuned leol. Byddwch yn eu helpu trwy broses rheoli a lleihau dyled, cael arian ac ymwneud â thechnoleg glyfar.

Gall hon fod yn swydd anodd (bydd rhai o’ch cleientiaid yn wynebu heriau enfawr), ond mae’n wir werth chweil, a byddwch yn gwneud gwahaniaeth pendant i ansawdd bywyd pobl. Byddwch yn rhoi i ddefnyddwyr yr wybodaeth a’r hyder i ymwneud mwy â’u defnydd ynni, ac yn alluog i benderfynu’n gall ynghylch sut i’w reoli. Bydd hynny’n rhoi arian yn ôl yn eu pocedi, yn y pen draw, ac yn gwella eu gallu i ymdopi a’u llesiant. Byddwch yn gyfaill adeiladol, greddfol, gofalgar sy’n galluogi pobl sy’n methu ag ymdopi â byd ynni ac a allent fod yn wynebu sawl her gymdeithasol ac economaidd.

Bydd angen gwiriad GDG: bydd Severn Wye yn talu am hyn.

 

Pam y mwynhewch weithio gyda ni

Mae Severn Wye yn sefydliad gwych i weithio iddo. Carwn yr hyn a wnawn. Byddwch yn mwynhau amgylchedd gweithiol hamddenol a chefnogol, a chydweithwyr sy’n wybodus, yn hael ac wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth. Mae ein trefniadau gweithio hyblyg wedi’u cynllunio i ddygymod â’r cydbwysedd gwaith/bywyd y mae ar ein pobl ei angen, gan ddibynnu ar ble maent yn eu bywyd a’u gyrfa, sy’n golygu y cawn fudd profiad a brwdfrydedd gweithwyr o bob oed a chefndir.

Fe ddarparwn ni’r hyfforddiant y mae arnoch ei angen i’ch helpu i dyfu yn eich swydd a dod i’r afael â’r dirwedd ynni. Dechreuwch ar 4 diwrnod o wyliau blynyddol, gan gynyddu i 29 diwrnod, a gwyliau’r banc yn ychwanegol. Cewch gefnogaeth wych ar gyfer y dyfodol megis Yswiriant Bywyd Grŵp a chynllun pensiwn cwmni gyda’r cyflogwr yn cyfrannu 7% pan gyfrennwch chi 5% neu ragor. Cydgyfarfyddwn yn aml ar gyfer achlysuron cymdeithasol a gofalwn amdanoch y tu mas i oriau gwaith gyda gostyngiadau i weithwyr ar amryw nwyddau, gan gynnwys gostyngiadau ar gardiau rhoddion ac arian yn ôl.

Os yw hwn yn swnio fel amgylchedd y ffynnech chi ynddo, hoffem glywed gennych.

Y SWYDD

Teitl swydd

Cynghorydd Ynni Cymunedol

Oriau gwaith

37 awr yr wythnos

Cyflog

2.1: Yn cyfateb i £25,710 llawn amser

Yn atebol i

Uwch-gynghorydd Ynni Cymunedol

Lleoliad

Gartref, gyda chryn deithio ledled yr ardal

Dyddiad pecyn swydd

13 Mai 2024

Bydd y swydd hon yn cynnwys

  • Darparu cyngor anfeirniadol, diduedd a chynhwysfawr i’r rhai sy’n wynebu rhwystrau rhag gwasanaethau ynni. Eiriol â chyflenwyr ynni ar ran cleientiaid er mwyn cywiro camgymeriadau anfon biliau, trefnu cynlluniau talu o flaen llaw (cyngor anariannol) a cheisio iawndal.
  • Rhoi cyngor ynni i aelwydydd yn ystod ymweliadau â chartrefi a thros y ffôn er gwella eu sefyllfa, gan gynnwys eu helpu i gael mynediad at ariannu a chynlluniau cymorth perthnasol.
  • Datblygu perthnasau gweithiol cryfion â’n partneriaid lleol er mwyn sicrhau y deallant pa gymorth sydd ar gael, ac y gweithiant gyda ni i roi i’w cleientiaid gymorth cyson a chyflawn.
  • Traddodi cyflwyniadau i sefydliadau partneriaethol i gynyddu eu hamgyffrediad i effeithlonrwydd ynni.
  • Cynnal stondinau yn achlysuron cymunedol.
  • Trefnu sesiynau galw heibio a chymorthfeydd yng nghanolfannau cymunedol.
  • Cofnodi manylion ymweliadau a chanlyniadau yn ein cronfa wybodaeth CRM a chyfeirio’n addas ar gyfer camre effeithlonrwydd ynni.
  • Cadw golwg ar gynnydd yn unol â nodau, gwerthuso, bod ag agwedd ragweithredol at ddatblygu’r gwasanaeth, a gwella’r cyflawni (â chefnogaeth rheolwyr).
  • Cofnodi astudiaethau achos.
  • Canlyn pob polisi a gweithdrefn drefniadol wrth gyflawni gwaith.
  • Gweithio am gyfnodau byrion yn ardaloedd daearyddol ehangach, gan fentora cynghorwyr newydd i’w swyddi.
  • Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill y bo gofyn rhesymol amdanynt.

SUT UN A BENODWN

Rydym yn chwilio am rywun

  • Sydd o natur gynnes, adeiladol a hyderus sy’n gwneud rhywun yn gartrefol, yn agos atoch ac yn gyfathrebwr rhagorol: yn gallu sefydlu perthynas â phobl o bob cefndir, ymwneud â nhw, a chyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg.
  • Ag agwedd reddfol a hyblyg at ddatrys problemau, yn gallu meddwl yn gyflym, ac a’r amynedd a’r dycnwch angenrheidiol ar gyfer datrys problemau cymhleth.
  • Yn gynlluniwr ac yn drefnydd a all weithio’n annibynnol a rheoli eich baich gwaith eich hun, gyda thrwydded yrru lawn a cherbyd ar gyfer gweithio.
  • A diddordeb mewn ynni a pharodrwydd i ennill cymhwyster (NVQ Graddfa 3) mewn ymwybyddiaeth effeithlonrwydd ynni, a datblygu’n barhaus.
  • Galluoedd TG (Word, Excel, Outlook, systemau cronfa wybodaeth ar-lein) er mwyn cynnal pob gweithgaredd a’u cofnodi’n gywir.

Mae’r galluoedd a’r profiad dymunol yn cynnwys

  • Profiad o waith prosiect cymunedol, cyflawni a rhoi gwybod.
  • Profiad o waith partneriaethol a phrosesau cyfeirio.
  • Amgyffrediad ac ymwybyddiaeth o broblemau effeithlonrwydd ynni a chartrefu.
  • Profiad o weithio â phobl fregus er mwyn gwella amgyffrediad o bwnc o dan sylw.
  • Gwybodaeth am grwpiau cymunedol a chymorth yn eich ardal, fel y gallwch ymateb i amgylchiadau annisgwyl trwy gyfeirio cymorth lleol perthnasol.

 

 

Mae Asiantaeth Ynni Severn Wye yn elusen sy’n gweithio yng Nghymru a Lloegr â gweledigaeth am fyw mewn hinsawdd sefydlog ag ynni i bawb.  Cyflawnwn hyn trwy weithio â phobl i oresgyn tlodi tanwydd a gweithredu ynghylch newid yn yr hinsawdd trwy osod ynni wrth graidd yr oll a wnawn.

Rydym yn helpu preswylwyr ac aelwydydd â gwybodaeth a chyngor, gan eu galluogi i ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon a byw bywydau iachach a mwy fforddiadwy. Rydym yn helpu busnesau i leihau eu hôl troed carbon a galluogwn gymunedau i wynebu heriau’r dyfodol trwy reoli faint o ynni a defnyddiant a gweithredu syniadau sy’n lleihau tlodi tanwydd a defnydd ynni. Mae Severn Wye ym mlaen y gad wrth arloesi technolegau adnewyddadwy newydd a allent newid dyfodol ynni. Gwnawn hon oll trwy fod yn bartneriaid ag awdurdodau lleol, adrannau llywodraeth a gwneuthurwyr polisïau i hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol trwy ynni adnewyddadwy a datblygu carbon isel.

severnwye.org.uk

Ymgeisio

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio, ewch i’n porth ymgeisio ar-lein a llanwch y ffurflen gais yno: severnwye.org.uk/jobs/apply. Ystyriwch gwblhau’r arolwg cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant dewisol ar ddiwedd y ffurflen hefyd, os gwelwch yn dda.

Cydraddoldeb

Rydym wedi ymrwymo i wella amrywiaeth ein tîm, felly gwarantwn gyfweliad i ymgeiswyr o gymunedau lleiafrifoedd ethnig, LGBTQ+ neu anabl sy’n cyrraedd meini prawf hanfodol swydd, gan gydnabod nad oes digon ohonynt yn Severn Wye ac yn y sector cynaliadwyedd yn gyffredinol. Byddwn wastad yn penodi’r ymgeisydd sy’n cyflawni’r swydd-ddisgrifiad a’r gofynion personol orau, fodd bynnag.

 

 

Enw’r cwmni neu sefydliad
Severn Wye
Math o swydd
Llawn amser
Dyddiad cau i ymgeiswyr
26 Medi 2024
Rhagor o wybodaeth
Tinopolis- Caernarfon

Ymchwilydd

Dyddiad cau: Medi 27
Cyngor Sir Ceredigion

Is Arweinydd De Cymru E-sgol

Dyddiad cau: Hydref 10
Prifysgol Caerdydd

Tiwtoriaid yn y Gyfraith (Cyfrwng Cymraeg)

Dyddiad cau: Medi 24
S4C

Prif Weithredwr

Dyddiad cau: Medi 30
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Swyddog Cefnogi Prosiectau

Dyddiad cau: Medi 17
Severn Wye

Cynghorydd Ynni Cymunedol (Ceredigion)

Dyddiad cau: Medi 26
Llywodraeth Cymru

Uwch-reolwr Awdurdodau Lleol

Dyddiad cau: Medi 29
Llywodraeth Cymru

Uwch Swyddog Polisi Arweinyddiaeth a’r Gymraeg

Dyddiad cau: Medi 17

Cylchlythyr