Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Swyddog Cefnogi Prosiectau

Dyddiad cau: 17 Medi 2024

Un o gampysau’r Brifysgol yng Nghymru (yn dibynnu ar leoliad yr ymgeisydd llwyddiannus), ond dylid gallu gweithio gartref, ac mewn lleoliadau eraill, yn ôl yr angen

£25,138 – £28,759 y flwyddyn–

AMDANOM NI –

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o’n gweithwyr ymroddedig a thalentog, ac rydym yn dîm sy’n gweithio gyda’n gilydd i wneud gwahaniaeth i fywydau ein myfyrwyr a’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn y 14eg safle yn y DU ar gyfer Cynhwysiant Cymdeithasol ac yn yr 28ain safle yn y DU ar gyfer Ansawdd yr Addysgu (Canllaw Prifysgolion Da The Times a’r Sunday Times, 2023), ac yn yr 21ain safle yn y DU ar gyfer Boddhad Myfyrwyr (Complete University Guide, 2023). Mae ein llwyddiant yn dibynnu’n helaeth ar ymrwymiad a sgiliau ein pobl.

Rydym yn chwilio am Swyddog Cefnogi Prosiectau i ymuno â ni’n llawn-amser ac yn barhaol.

– Y RÔL –

Bydd y Swyddog Cefnogi Prosiectau yn gyfrifol am gydlynu a chefnogi pob agwedd ar weithgarwch y Ganolfan sy’n cynnwys ei gwaith prosiect o ddatblygu adnoddau addysgol yn ogystal â’r rhaglen o hyfforddiant iaith Gymraeg a gynigir gan y Brifysgol yn fewnol ac allanol

Darllenwch y Swydd-ddisgrifiad i gael rhagor o wybodaeth, lle cewch hefyd restr o feini prawf hanfodol a dymunol ‘Manyleb y Person’.

– GOFYNION –

Bydd angen i chi feddu ar y canlynol:

– Gradd gydag anrhydedd neu gymhwyster cyfwerth

– Profiad blaenorol o gefnogi prosiectau

– Sgiliau technoleg gwybodaeth priodol

– Y gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm

– Y gallu i weithio dan bwysau

– Sgiliau rhyngbersonol o safon uchel a’r gallu i gyfathrebu’n briodol ag eraill

– Mae’r gallu i gyfathrebu ar lefel uchel yn y Gymraeg a’r Saesneg, ar lafar ac ar bapur, yn gwbl allweddol i’r swydd hon

Bydd yn fuddiol hefyd feddu ar y canlynol:

– Profiad blaenorol o weithio’n ddwyieithog

– Profiad blaenorol o weinyddu a prosesu ariannol

– BUDDIANNAU –

– Bydd gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gwyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau

Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddion cynhwysfawr yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy’n cynnwys:

– Cyflog cystadleuol a datblygiad cyflog

– Lwfans gwyliau blynyddol hael, yn cynnwys cau dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd

– Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddion i chi a’ch teulu

– Mynediad at lwyfan buddion a llesiant sydd â dewis o fuddion i weddu i’ch anghenion, gan gynnwys cynllun aberthu cyflog ar gyfer cerbyd trydan, a gwasanaethau llesiant ariannol

– Cymorth ar gyfer iechyd a llesiant, gan gynnwys mynediad at gyfleusterau chwaraeon ar y campws am brisiau gostyngol, gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela

– Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau

– Polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd ac sy’n darparu ar gyfer gweithio’n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth gwell â thâl

– Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i’r gwaith.

– SUT MAE GWNEUD CAIS –

Os ydych yn teimlo y gallech ffynnu a chael effaith yn y rôl hon, gwnewch gais trwy’r botwm a ddangosir.Nodwch nad yw’r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau’r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Ategol.Nodwch y bydd eich iaith ohebu yn cael ei phennu gan yr iaith y byddwch yn ei defnyddio yn eich cais. I wneud cais yn Gymraeg, cliciwch ar ‘Cymraeg’ ar ochr dde uchaf y sgrin.

Dyddiad cau: 17 Medi 2024, 11:59 pm

Enw’r cwmni neu sefydliad
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Math o swydd
Llawn amser
Dyddiad cau i ymgeiswyr
17 Medi 2024
Rhagor o wybodaeth
Tinopolis- Caernarfon

Ymchwilydd

Dyddiad cau: Medi 27
Cyngor Sir Ceredigion

Is Arweinydd De Cymru E-sgol

Dyddiad cau: Hydref 10
Prifysgol Caerdydd

Tiwtoriaid yn y Gyfraith (Cyfrwng Cymraeg)

Dyddiad cau: Medi 24
S4C

Prif Weithredwr

Dyddiad cau: Medi 30
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Swyddog Cefnogi Prosiectau

Dyddiad cau: Medi 17
Severn Wye

Cynghorydd Ynni Cymunedol (Ceredigion)

Dyddiad cau: Medi 26
Llywodraeth Cymru

Uwch-reolwr Awdurdodau Lleol

Dyddiad cau: Medi 29
Llywodraeth Cymru

Uwch Swyddog Polisi Arweinyddiaeth a’r Gymraeg

Dyddiad cau: Medi 17

Cylchlythyr