S4C

Prif Weithredwr

Dyddiad cau: 30 Medi 2024

Dyma gyfle gwych i arwain S4C i’n pennod nesaf wrth i ni barhau i drawsnewid i fod yn endid cwbl ddigidol wrth i’n cynulleidfaoedd wylio ein cynnwys mewn ffyrdd gwahanol. Mae Bwrdd S4C yn chwilio am Brif Weithredwr i fod yn gyfrifol am holl weithgareddau S4C, ac wrth wneud hynny mae’n ymgorffori gwerthoedd craidd S4C. Fel llysgennad S4C, bydd y Prif Weithredwr yn rhannu ein gweledigaeth, ein gwerthoedd ac sy’n barod i weithio gyda’r Bwrdd, staff S4C a’r sector i ddod â’r weledigaeth yna’n fyw.

Bydd y Prif Weithredwr yn arweinydd ysbrydoledig, yn greadigol ei agwedd gyda thystiolaeth amlwg o’r gallu i reoli unigolion, timau a sefydliadau mewn ffordd deg a chymodol. Bydd gan yr unigolyn hanes profedig o ddod â staff a rhanddeiliaid a phartneriaid amlochrog ar daith wrth fynd drwy gyfnod o drawsnewid. Fydd y Prif Weithredwr yn gyfforddus mewn sefyllfaoedd amrywiol, gan ymwneud â rhanddeiliaid gwahanol yn cynnwys staff, y sector creadigol, gwleidyddion yng Nghymru a Lloegr, gweision sifil, a rheoleiddwyr. Bydd y Prif Weithredwr yn berchen ar sgiliau rhyngbersonol eithriadol, yn gyfathrebwr naturiol a lefel uchel o ddeallusrwydd emosiynol gyda’r gallu i greu a diwallu datrysiadau arloesol. Hyn oll er mwyn sicrhau bod arlwy aml blatfform S4C yn cyfoethogi ac yn bodloni anghenion ei chynulleidfa.

Am sgwrs anffurfiol a mwy o fanylion, cyswllt gyda thîm Odgers Berndtson yng Nghymru ar OdgersWalesPractice@odgers.com. I wneud cais, danfonwch e-bost gyda’ch llythyr cais a CV at 92054@odgers.com. Bydd pob cais yn cael ei gydnabod.

Cyflog cystadleuol.

Dyddiad cau 30 Medi 2024.

Enw’r cwmni neu sefydliad
S4C
Math o swydd
Llawn amser
Disgrifiad swydd
2024-09-02-briff-i-ymgeiswyr-t71-1.pdf
Dyddiad cau i ymgeiswyr
30 Medi 2024
Tinopolis- Caernarfon

Ymchwilydd

Dyddiad cau: Medi 27
Cyngor Sir Ceredigion

Is Arweinydd De Cymru E-sgol

Dyddiad cau: Hydref 10
Prifysgol Caerdydd

Tiwtoriaid yn y Gyfraith (Cyfrwng Cymraeg)

Dyddiad cau: Medi 24
S4C

Prif Weithredwr

Dyddiad cau: Medi 30
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Swyddog Cefnogi Prosiectau

Dyddiad cau: Medi 17
Severn Wye

Cynghorydd Ynni Cymunedol (Ceredigion)

Dyddiad cau: Medi 26
Llywodraeth Cymru

Uwch-reolwr Awdurdodau Lleol

Dyddiad cau: Medi 29
Llywodraeth Cymru

Uwch Swyddog Polisi Arweinyddiaeth a’r Gymraeg

Dyddiad cau: Medi 17

Cylchlythyr