Swydd: Cadeirydd y Bwrdd
Sefydliad: y Gymdeithas Gofal
Cyflog: Gwirfoddol
Lleoliad: Aberystwyth
Dyddiad Cau: 14 Hydref 2024
Dyddiad Cyfweliad: 28 Hydref 2024
Crynodeb
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â phrofiad o fod yn gadeirydd i ymgymryd â rol Cadeirydd Annibynnol ar fwrdd y Gymdeithas Gofal yn Aberystwyth. Byddem hefyd yn croesawu profiad o ymwneud â thai a chymorth ac o ymwneud â llywodraethiant.
Disgrifiad Swydd
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â phrofiad o fod yn gadeirydd i ymgymryd â rol Cadeirydd Annibynnol ar fwrdd y Gymdeithas Gofal yn Aberystwyth. Byddem hefyd yn croesawu profiad o ymwneud â thai a chymorth ac o ymwneud â llywodraethiant.
Mae’r Gydemdeithas Gofal yn ran o Grŵp Barcud.
Mae’r Bwrdd yn gyfrifol am sicrhau llwyddiant y Gymdeithas Gofal: am bennu ei chenhadaeth a’i gwerthoedd; diffinio amcanion strategol a goruchwylio’r gwaith o’u cyflawni; sicrhau bod asedau’r sefydliad a Barcud yn cael eu diogelu, a bod y sefydliad yn parhau’n hyfyw yn ariannol – a’r cyfan yn unol â’r cyfansoddiad, y gyfraith a gofynion rheoleiddiol. Y Cyfarwyddwr Grŵp perthnasol yn Barcud a Thîm Arwain y sefydliad sy’n gyfrifol am reoli’r sefydliad o ddydd i ddydd.
Mae gan Barcud dros 4,000 o gartrefi a throsiant o dros £25 miliwn. Felly, dyma’r gymdeithas dai fwyaf sydd â’i gwreiddiau yng nghymunedau’r canolbarth a’r gorllewin, a dyma’r partner naturiol i’r sawl sydd am ddarparu tai, cyflogaeth a chyfleoedd datblygu ehangach yn y rhanbarth.
Mae Barcud yn fwy na chymdeithas dai; yn ogystal ag adeiladu cartrefi ar gyfer anghenion y dyfodol a darparu gwasanaethau landlord, mae hefyd yn cynnig atebion cynhwysfawr o ran tai, gwasanaethau cynnal a chadw a chymorth, a hynny drwy ei dri is-gwmni; Y Gymdeithas Gofal, Gofal a Thrwsio ym Mhowys a EOM.
Mae cynnwys tenantiaid a phreswylwyr yn wirioneddol yn ei waith yn elfen gwbl sylfaenol o ffordd Barcud o weithio, ac mae’r Bwrdd yn cynnwys y tenantiaid wrth ddatblygu polisïau a strategaethau. Dyma un o’r ffyrdd niferus y mae Barcud wedi’i wreiddio mewn cymunedau ar draws y canolbarth a’r gorllewin.
Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n rhannu ein huchelgais a’n hymrwymiad i ddarparu’r cartrefi a’r gwasanaethau gorau posibl i bobl y canolbarth a’r gorllewin.
Mae Grŵp Barcud wedi ymrwymo i ddatblygu unigolion er mwyn eu galluogi i gyflawni eu potensial. Mae’r ymrwymiad hwn i ddysgu a datblygu’n cynnwys Aelodau Bwrdd, a bydd rhaglen sefydlu gynhwysfawr yn cael ei darparu i’r unigolion llwyddiannus. Bydd Aelodau Bwrdd newydd yn cael cyfle i gael eu mentora gan Aelod Bwrdd presennol a bod yn rhan o’r rhaglen o arfarniadau Aelodau Bwrdd a gyflawnir gan y Cadeirydd.
Rhagor o wybodaeth am y Gymdeithas Gofal: https://caresociety.org.uk/cy/
Rhagor o wybodaeth am Grŵp Barcud : https://www.barcud.cymru/recruitment/?lang=cy
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Y Gymdeithas Gofal
- Disgrifiad swydd
- PECYN-RECRIWTIO-CYM-GOFAL-B25.pdf
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 14 Hydref 2024