Senedd Cymru

Swyddog Gwasanaethau Cwsmeriaid (Gogledd Cymru)

Dyddiad cau: 16 Hydref 2024

Dyddiad cau: 23.59 16 Hydref 2024

Cyflog: £23,781 – £26,062 (Cymorth Tîm)

Lleoliad: Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno (Gogledd Cymru)

Rydym yn recriwtio Swyddog Gwasanaeth Cwsmeriaid i ymuno â’n tîm yng Ngogledd Cymru.

Mae’r swydd hon yn y tîm Ymgysylltu ag Ymwelwyr a Gwasanaethau Cwsmeriaid, sy’n sicrhau bod cwsmeriaid yn cael y profiad gorau posibl wrth ymweld neu gysylltu ag ystad y Senedd. Mae’r tîm yn darparu gwasanaeth gwybodaeth dwyieithog a diduedd i’r cyhoedd ac yn annog rhagor o ymgysylltu â’r Senedd.

Byddwch yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth gwybodaeth proffesiynol ac effeithlon, ar-lein, ar y ffôn ac wyneb yn wyneb. Byddwch yn gohebu â’r cyhoedd ac Aelodau o’r Senedd, yn ymdrin â cheisiadau am wybodaeth am y Senedd, Busnes y Senedd, ymweliadau â’r Senedd a chyfleoedd ymgysylltu eraill.

Mae’r rôl hon yn gofyn am allu i roi sylw i fanylion, a sgiliau cryf ym maes cyfathrebu a gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae’r gallu i gyfathrebu’n hyderus â phobl ar bob lefel yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.  Mae hyfforddiant a chymorth ardderchog ar gael i’ch helpu yn eich rôl.

Os yw’r syniad o ddiddordeb i chi ac yn eich cyffroi, rydym yn awyddus i glywed gennych!

Enw’r cwmni neu sefydliad
Senedd Cymru
Dyddiad cau i ymgeiswyr
16 Hydref 2024
Rhagor o wybodaeth
Cyngor y Gweithlu Addysg

Swyddog Cymorth Corfforaethol

Dyddiad cau: Hydref 22
Senedd Cymru

Swyddog Gwasanaethau Cwsmeriaid (Gogledd Cymru)

Dyddiad cau: Hydref 16
Mentera

Cynorthwyydd Tîm (Y Ganolfan Wasanaeth) (1 FTE)

Dyddiad cau: Hydref 15
Coleg Cymraeg

Penodi Aelod Bwrdd

Dyddiad cau: Hydref 30
Comisiynydd y Gymraeg

Swyddog Llywodraethiant

Dyddiad cau: Hydref 11
Cyngor Gwynedd

Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd

Dyddiad cau: Hydref 10
Cristnogaeth 21

Swyddog Cyfryngau C21

Dyddiad cau: Hydref 18
Yr Eglwys yng Nghymru

Rheolwr Prosiect

Dyddiad cau: Hydref 3
NHS

Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Dyddiad cau: Hydref 6
Cyngor Sir Ceredigion

Is Arweinydd De Cymru E-sgol

Dyddiad cau: Hydref 10

Cylchlythyr