Dyddiad cau: 23.59 16 Hydref 2024
Cyflog: £23,781 – £26,062 (Cymorth Tîm)
Lleoliad: Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno (Gogledd Cymru)
Rydym yn recriwtio Swyddog Gwasanaeth Cwsmeriaid i ymuno â’n tîm yng Ngogledd Cymru.
Mae’r swydd hon yn y tîm Ymgysylltu ag Ymwelwyr a Gwasanaethau Cwsmeriaid, sy’n sicrhau bod cwsmeriaid yn cael y profiad gorau posibl wrth ymweld neu gysylltu ag ystad y Senedd. Mae’r tîm yn darparu gwasanaeth gwybodaeth dwyieithog a diduedd i’r cyhoedd ac yn annog rhagor o ymgysylltu â’r Senedd.
Byddwch yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth gwybodaeth proffesiynol ac effeithlon, ar-lein, ar y ffôn ac wyneb yn wyneb. Byddwch yn gohebu â’r cyhoedd ac Aelodau o’r Senedd, yn ymdrin â cheisiadau am wybodaeth am y Senedd, Busnes y Senedd, ymweliadau â’r Senedd a chyfleoedd ymgysylltu eraill.
Mae’r rôl hon yn gofyn am allu i roi sylw i fanylion, a sgiliau cryf ym maes cyfathrebu a gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae’r gallu i gyfathrebu’n hyderus â phobl ar bob lefel yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Mae hyfforddiant a chymorth ardderchog ar gael i’ch helpu yn eich rôl.
Os yw’r syniad o ddiddordeb i chi ac yn eich cyffroi, rydym yn awyddus i glywed gennych!
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Senedd Cymru
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 16 Hydref 2024