Swydd-Ddisgrifiad
Cyfeirnod y Swydd: EWC 44
Teitl y Swydd: Swyddog Cymorth Corfforaethol
Gradd: Swyddog Gweithredol
Yn adrodd I: Y Rheolwr Gwasanaethau Corfforaethol
Yn gyfrifol am: Ddim yn berthnasol
Lleoliad: Caerdydd
Contract: Parhaol, amser llawn (37 awr yr wythnos)
Diben y Swydd:
Yn un o ddau Swyddog Cymorth Corfforaethol yn gweithio o dan gyfarwyddyd y Rheolwr Gwasanaethau Corfforaethol, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol ar y cyd am ddarparu swyddogaeth ddeuol:
• Darparu cymorth Ysgrifenyddiaeth gweithredol a gweinyddol i Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (IWPRB – gweler y nodyn isod); a
• Darparu cymorth gwasanaethau corfforaethol dwyieithog i sefydliad ehangach CGA.
Penodwyd CGA yn Ysgrifenyddiaeth Annibynnol i Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (IWPRB) ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’r IWPRB yn gyfrifol am wneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar gyflog ac amodau athrawon ysgol yng Nghymru. Mae’r Corff yn asesu tystiolaeth gan randdeiliaid allweddol sy’n cynrychioli ysgolion a’r gweithlu ysgolion yng Nghymru, gan chwarae rôl strategol wrth ddarparu her strategol, cymorth, cyfeiriad a dealltwriaeth o’r materion mae ysgolion yng Nghymru yn eu hwynebu.
Cyfrifoldebau:
Bydd y Swyddog Cymorth Corfforaethol yn: Ysgrifenyddiaeth i’r IWPRB
- Darparu arbenigedd a chymorth gweinyddol i’r IWPRB, gan gynnwys cyflawni tasgau gweinyddol cyffredinol, camau sefydlu aelodau newydd, cynnal cofrestr buddiannau, trefnu adolygiadau blynyddol i aelodau a chaffael ymgynghorwyr i awduro adroddiadau;
- Rheoli mewnflwch yr Ysgrifenyddiaeth, gan weithredu fel pwynt cyswllt dwyieithog ar gyfer aelodau’r IWPRB a rhanddeiliaid allweddol, gan sicrhau ymatebion prydlon i ymholiadau a dosbarthu cyhoeddiadau a gwybodaeth sy’n berthnasol i waith yr IWPRB;
- Mewn cydweithrediad â Chadeirydd yr IWPRB, datblygu agendâu cyfarfodydd, cynlluniau gwaith blynyddol a chalendrau dyddiadau;
- Mynychu a gwneud yr holl drefniadau ymarferol ar gyfer cyfarfodydd yr IWPRB, gan gynnwys cymryd nodiadau cyfarfodydd, dosbarthu papurau, archebu lleoliadau, trefnu teithio a llety, hwyluso unrhyw ofynion technegol a chydlynu gwasanaethau cyfieithu a thrawsgrifio, lle y bo’n briodol;
- Cydlynu trefniadau ar gyfer pob sesiwn ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ymweliadau blynyddol yr aelodau ag ysgolion;
- Cynorthwyo tîm data CGA wrth gomisiynu a choladu data ar gais yr IWPRB;
- Ymgymryd ag ymchwil barhaus i atgyfnerthu arfer gorau a sicrhau llywodraethu da;
- Cynorthwyo wrth ddiwygio a chynnal trefniadau, gweithdrefnau a systemau mewn
perthynas â gwaith yr IWPRB;
- Darparu systemau cadw cofnodion a chofnodi priodol gan gynnwys drwy fonitro cyllideb
yr IWPRB, logio presenoldeb, cyfraddau dyddiol a hawliadau am dreuliau;
- Cynorthwyo wrth ddrafftio papurau’r Cyngor a’r Pwyllgorau.
Cymorth Gwasanaethau Corfforaethol
- Darparu cymorth gweinyddol dwyieithog cynhwysfawr i dimau ac unigolion yn CGA yn ôl y gofyn, gan gynnwys rheoli dyddiaduron, cymryd nodiadau mewn cyfarfodydd, archebu teithio a llety, trefnu cyfarfodydd/cyflwyniadau allanol, monitro treuliau ac ymgymryd â gwaith ymchwil neu brosiect
- Cynorthwyo wrth adolygu, datblygu, cyfathrebu ac adrodd am bolisïau a systemau gweithredol a rhai iechyd a diogelwch;
- Cydlynu ymholiadau ffôn cyffredinol CGA, ebyst a gohebiaeth drwy’r post, gan ymateb i ymholiadau a gwybodaeth neu eu trosglwyddo fel sy’n briodol;
- Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer holl ymholiadau gweinyddol y swyddfa a chynorthwyo wrth gynnal amgylchedd y swyddfa, y cyfarpar a chaffael contractau newydd a rhai sydd eisoes ar waith;
- Trefnu cyfieithu dogfennau CGA, cysylltu â chydweithwyr a chyflenwyr a chadw cofnodion cyfieithu;
- Trefnu a monitro trefniadau ar gyfer storio dogfennau oddi ar y safle a’u dinistrio yn unol â gofynion diogelu data;
- Cydlynu gofynion ar gyfer cyflenwadau a chyfarpar i’r swyddfa, gan gynnwys paratoi archebion, prynu a gwirio bod nwyddau a gwasanaethau wedi’u derbyn;
- Ymgymryd ag asesiadau risg blynyddol o Orsafoedd Gwaith a Chyfarpar Sgriniau Arddangos ac ‘arsylwadau crwydro’ misol i fonitro iechyd a diogelwch, gan adrodd am unrhyw faterion sy’n codi a darparu cyngor lle y bo’n briodol; a
- Chynnal a datblygu adnoddau gwybodaeth canolog, e.e. llyfrgell staff, cronfa ddata cysylltiadau.
Cyffredinol
• Sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth berthnasol gan gynnwys yr Iaith Gymraeg, Cydraddoldeb a’r Rheoliadau Diogelu Data cyffredinol; ac
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill yn unol â chyfarwyddyd y Rheolwr Gwasanaethau Corfforaethol neu’r Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol yn unol â’r swydd a’r radd.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Cyngor y Gweithlu Addysg
- Math o swydd
- Llawn amser
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 22 Hydref 2024