![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/8/2024/05/Untitled-design-20-308x190.jpg?0)
Yn dilyn newyddion da am brosiectau newydd i Golwg Creadigol, rydym yn awyddus i ehangu’r tîm a phenodi person brwdfrydig, llawn syniadau, i wireddu cynlluniau cyfathrebu ein prosiectau a’n cyhoeddiadau, ynghyd â chynorthwyo i drefnu digwyddiadau.
I weld disgrifiad swydd llawn neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Owain Schiavone: owainschiavone@golwg.cymru
Mae hon yn un o ddwy swydd wag gan gwmni Golwg ar hyn o bryd, wrth i’r tîm dyfu. Efallai y bydd y swydd Cynhyrchydd Creadigol o ddiddordeb i chi hefyd.
Cyflog: £25,000+ (yn ddibynnol ar brofiad)
Lleoliad: Hyblyg
Oriau: Llawn-amser
Cyfnod: blwyddyn o gontract, gyda’r posibilrwydd o droi’n swydd barhaol
Dyddiad cau: 20 Mehefin 2024
Ymgeisio: Anfon llythyr cais, CV a manylion dau ganolwr at owainschiavone@golwg.cymru
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Golwg Creadigol
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 20 Mehefin 2024