![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/8/2023/10/Prifysgol-Bangor-308x190.jpg?l)
PRIFYSGOL BANGOR
CANOLFAN BEDWYR
Cyflog: £25,742 – £28,759 y.f. (Graddfa 5)
(Cyf: BU03546)
Dyma gyfle rhagorol i chwarae rhan allweddol mewn project newydd o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i hyrwyddo’r Gymraeg a hwyluso dewisiadau ieithyddol myfyrwyr Prifysgol Bangor.
Prif gyfrifoldeb y swyddog fydd gweithredu cynlluniau ac ymyriadau i gynyddu’r ganran o fyfyrwyr gyda sgiliau Cymraeg sy’n dewis astudio drwy’r Gymraeg. Bydd y gwaith yn gofyn am feithrin cysylltiadau gyda myfyrwyr a chydweithio’n agos â staff sy’n gyfrifol am gynllunio, hyrwyddo a chynnal y ddarpariaeth Gymraeg.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus gydag 2 Lefel AS neu 1 Lefel A neu NVQ lefel 3 mewn maes pwnc perthnasol.
Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n frwd dros ddatblygiad addysg Gymraeg, yn weinyddwr trefnus gyda meddwl creadigol, ac yn gallu cyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig. Bydd yn gallu rhoi cynlluniau ar waith mewn ffyrdd rhagweithiol gan weithio’n annibynnol, ond hefyd fel aelod o dîm.
Mae’r swydd, sy’n cael ei hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn un llawn-amser ac wedi’i lleoli yng Nghanolfan Bedwyr (Canolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg y Brifysgol), dros gyfnod penodol o ddwy flynedd.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau cyn gynted â phosib.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn effeithiol yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Byddwn yn trafod hyn gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Ystyriwn geisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan amser neu rannu’r swydd.
Mae manylion pellach a chyfarwyddiadau ar sut i ymgeisio i’w gweld ar wefan ‘Cyfleoedd’ Prifysgol Bangor (http://jobs.bangor.ac.uk/index.php.cy).
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â Dr Lowri Hughes, (01248 388697; l.a.hughes@bangor.ac.uk).
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Prifysgol Bangor
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 19 Mehefin 2024