![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/8/2016/11/EWC-Colour-Logo-1500x1500-308x190.jpg?2jrb52)
Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r rheoleiddiwr proffesiynol annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru.
Fel rhan o’r tîm Cymwysterau a Chofrestru, bydd y Swyddog Cofrestru yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni gwaith Cofrestru’r CGA. Bydd hyn yn cynnwys cynnal Cofrestr yr Ymarferwyr Addysg, darparu gwasanaeth ymholi dwyieithog proffesiynol a chyfleusterau desg gymorth i ymarferwyr a chyflogwyr, gan weinyddu gwobrwyo Statws Athro Cymwysedig a datblygu a pharatoi adroddiadau ac ystadegau.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol, gyda phrofiad o drin ymholiadau amrywiol. Byddant hefyd yn siaradwr Cymraeg rhugl a’r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Cyngor y Gweithlu Addysg
- Disgrifiad swydd
- EWC-7b-JDPS-1023-W.pdf
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 23 Mehefin 2024