Prifysgol Bangor
Coleg Meddygaeth ac Iechyd
#Graddfa 6: £29,605 – £36,024 y flwyddyn.
(Cyf: BU03579)
Gwahoddir ceisiadau am swydd lawn amser barhaol yn gweithio yn y Coleg Meddygaeth ac Iechyd, yn cyflawni gweithgarwch recriwtio a marchnata i gefnogi’r gwaith o recriwtio myfyrwyr i’r meysydd pwnc perthnasol.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio’n agos gyda Rheolwr Marchnata’r Coleg i weithredu, darparu a monitro ystod o weithgarwch marchnata a recriwtio, gan gynnwys amrywiaeth o ymgyrchoedd digidol gydag asiantaethau allanol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi cael addysg i safon lefel A (neu gyfwerth) mewn pwnc priodol, neu brofiad sy’n cyfateb i hynny.
Mae’n rhaid i chi fod yn gyfathrebwr hyderus, gyda sgiliau ysgrifennu copi, darllen proflenni a golygu rhagorol. Rhaid bod gennych brofiad o gynhyrchu deunyddiau marchnata a meddu ar sgiliau trefnu rhagorol a bod yn aelod o dîm.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd hon.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Fodd bynnag, os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Prifysgol Bangor
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 24 Mehefin 2024